Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o rannu eu bod wedi'u henwebu gan UK Theatre ar gyfer gwobr Rhagoriaeth Mewn Teithio. Diolch o waelod calon i dîm arbennig y cwmni, yn ogystal â’r holl artistiaid a gweithwyr llawrydd gwych, sydd wedi cyfrannu at y gydnabyddiaeth yma.

Mae UK Theatre yn sefydliad aelodaeth blaenllaw ar gyfer theatr a’r celfyddydau perfformio. Fel rhan o’u gwaith, maen nhw’n hybu rhagoriaeth, datblygu proffesiynol ac yn ymgyrchu dros wella gwytnwch a chynyddu cynulleidfaoedd ledled y sector. Mae’r wobr Rhagoriaeth Mewn Teithio yn cydnabod gwaith pwysig cwmnïau teithiol a’u cyfraniadau at wytnwch y diwydiant celfyddydol.

Yn ystod y cyfnod dan sylw (14 Awst 2023 – 28 Awst 2024), bu’r cwmni’n llwyfannu 92 o berfformiadau mewn tua 50 lleoliad gwahanol yng Nghymru, gan gyrraedd mwy na 20,000 o bobl gyda’n rhaglen o berfformiadau a phrosiectau cyfranogi. Cyflogwyd mwy na 260 o weithwyr llawrydd i greu’r gwaith yma, gyda chyfanswm o £350,000 o daliadau i lawryddion ac yn cyfrannu £180,000 i economïau lleol ar daith, yn cynnwys ardaloedd gwledig.

Roedd y cynyrchiadau yn ystod y cyfnod yn cynnwys:

  • Rhinoseros – yr addasiad Cymraeg cyntaf o gampwaith absẃrd Eugene Ionesco (4 seren, The Stage a The Guardian)
  • Swyn – sioe ddawns newydd i blant 3-7 mlwydd oed mewn Iaith Arwyddion Prydain a Chymraeg
  • Ie Ie Ie – sioe am gysyniad a pherthnasau iach, wedi’i greu ar y cyd â phobl ifanc Cymru
  • Parti Priodas – comedi newydd wedi’i osod ar ddiwrnod priodas, gyda theatrau dan eu sang ledled Cymru 

Mae’r cwmnïau rhagorol ETT (English Touring Theatre) a Wise Children hefyd wedi’u henwebu yn yr un categori. Hoffem longyfarch yr holl enwebedigion, yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru a No Fit State am gael eu henwebu am wobr Cyflawniad Opera ar gyfer y cyd-gynhyrchiad Death In Venice.

Cyhoeddir yr holl enillwyr ar 20 Hydref 2024 mewn seremoni wobrwyo yn Llundain.