Gwener 20 Hydref 2023 - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Rydyn ni'n eich gwahodd i ddod at eich gilydd i drafod sut mae diwydiant theatr Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Yr argyfwng hinsawdd yw'r cyd-destun yr ydyn ni nawr yn creu gwaith ynddo. Ni allwn ni newid hynny. Ond fe allwn ni newid sut rydyn ni'n gwneud i hynny weithio a beth yw'r gwaith. Mae'r diwydiant yn ecosystem, wedi'i gysylltu ar sawl pwynt. Drwy gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd, gall Cymru osod y bar o arfer gorau.

Ymunwch â ni yng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gychwyn y daith honno. Gwrandewch ar straeon am lwyddiannau a methiannau, cynnydd a heriau, a rhannwch eich meddyliau a'ch syniadau eich hun am greu theatr gan gadw cynaliadwyedd wrth galon y cyfan.

 

Yr hyn i'w ddisgwyl

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu'n bedair rhan. Bydd deuddeg siaradwr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn eu meysydd yn rhoi sgyrsiau byr i ysgogi sgwrs ac ateb cwestiynau. Mae'r gweddill i fyny i chi.

Gallwch ddweud wrthym am eich buddugoliaethau, penderfyniadau 'gwyrdd' sydd wedi gweithio, ailddefnyddio setiau, lleihau cludiant, neu newid i LEDs. Gallwch hefyd ddweud wrthym am bethau nad ydynt wedi mynd cystal…

Byddwch yn eistedd wrth fyrddau crwn i hwyluso sgwrs ac annog ymgysylltiad. Erbyn diwedd y dydd, rydym yn gobeithio y byddwn o leiaf wedi rhannu rhai syniadau a fydd yn ddefnyddiol ac y gallwch eu cymryd yn ôl a'u hymgorffori yn eich gwaith.

 

Archebu

Os hoffech fynychu'n bersonol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, archebwch eich lle ar wefan National Theatre Wales. Mae presenoldeb yn rhad ac am ddim ond mae'r capasiti yn gyfyngedig.

Os byddwch yn ymuno ar-lein, ewch i AM i gael mynediad i'r llif byw o 10am ddydd Mercher 20 Hydref