Mae Theatr Clwyd a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi bod yn cydweithio ers 6 blynedd gan ddarparu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc ledled Cymru ac ni fydd eleni yn eithriad.

Yr haf yma byddant yn cynnal eu Rhaglen Breswyl Llwybrau Proffesiynol 2024 yn Theatr Clwyd. Mae Llwybrau Proffesiynol yn agored i bobl ifanc 16 i 22 oed sydd eisiau meithrinsgiliau perfformio a dysgu am y diwydiant theatr, gan gynnwys y swyddi cefn llwyfan. Yn ystod y cyfnod preswyl o 3 diwrnod yn Theatr Clwyd (28 Mehefin -1 Gorffennaf), bydd 50 o bobl ifanc yn mynd y tu ôl i’r llenni ar gynhyrchiad haf y lleoliad o Rope gan Patrick Hamilton. Byddant yn gweithio gyda'r timau creadigol proffesiynol ar y sioe ac yn gweld drostynt eu hunain sut mae'n cael ei chreu. Bydd gweithdai hefyd ar sgiliau perfformio a chlyweliad, a chyflwyniad i gefn y llwyfan, gan gynnwys cynllunio setiau a gwisgoedd, cynllunio’r goleuo a’r sain a rheoli’r llwyfan. Bydd y cyfnod preswyl yn ddwyieithog ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y theatr i ymgeisio. 

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: Mae gan Gymru draddodiad theatrig mor gyffrous, ond mae’n anodd i bobl ifanc ddeall yr ystod eang o wahanol yrfaoedd ar y llwyfan ac yng nghefn y llwyfan y gallent eu cael. Mae’r bartneriaeth yma rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Clwyd yn gyfle gwych i ysbrydoli, cefnogi a chysylltu ein cenhedlaeth nesaf o actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr goleuo, peirianwyr sain, gwneuthurwyr gwisgoedd, cynhyrchwyr a mwy!”

Eisoes eleni mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Clwyd wedi mynd i 8 ysgol ar draws Gogledd a De Cymru yn cyflwyno gweithdai i roi cipolwg ar beth i'w ddisgwyl yn y clyweliadau a'r cyfnod preswyl Llwybrau Proffesiynol.

Mae’r cyfranogwyr preswyl blaenorol wedi dweud: Mae Llwybrau Proffesiynol yn cael ei alw yn hynny am reswm, rydych chi wir yn cael eich addysgu gan, a'ch trin fel, gweithiwr proffesiynol. Rydych chi’n cael dysgu'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen yn bendant i symud ymlaen o fewn y celfyddydau."

“Mae cymaint o wahanol bethau rydw i wedi’u dysgu ac rydw i wedi sylweddoli nad dim ond un ffordd gul i mewn i'r diwydiant sydd, mae cymaint o wahanol lwybrau a siwrneiau y mae pobl yn eu dilyn”

(Cyfnod Preswyl y Pasg Llwybrau Proffesiynol 2023 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru)

Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Cymunedau, Lles ac Addysg Theatr Clwyd, am y bartneriaeth: Rydyn ni’n falch iawn o barhau i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru gyda TheatrIeuenctid Genedlaethol Cymru. Gyda’n gilydd fe fyddwn ni’n ymdrechu i agor y cyfleoedd i bob rhan o Gymru ac i sicrhau ein bod ni’n datblygu pob elfen o greu theatr!

Mae’r archebion ar gyfer y gweithdai clyweliad ar gyfer y cyfnod preswyl a chyfleoedd eraill i aelodau ThCIC ar agor tan 27 Chwefror gyda chlyweliadau’n cael eu cynnal ledled Cymru rhwng 9 Mawrth a 25 Mawrth mewn lleoliadau niferus, gydag opsiwn ar gyfer sesiynau ar-lein ar zoom. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais a beth i’w ddisgwyl o’r gweithdy clyweliad ewch i: https://www.ccic.org.uk/clyweliadau