Mae Theatr Bara Caws yn chwilio am aelodau newydd i ymuno å'r Bwrdd Cyfarwyddwyr. 

Ers ei sefydlu dros bedwar deg pump mlynedd yn ôl, datblygodd Cwmni Theatr Bara Caws i fod yn un o gonglfeini’r byd theatrig yng Nghymru. ’Rydym yn parhau i gyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i’r trawstoriad ehangaf posib o’r gymuned, gan ddod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon Cymru, a chalonnau’r Cymry.

Mae Cwmni Theatr Bara Caws yn teithio theatr fyw gyffrous o amgylch Cymru ac yn chwilio am aelodau newydd ar gyfer y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Rydym yn awyddus i benodi pobl fydd yn ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd cynyddol amrywiol ac i adlewyrchur amrywiaeth eang o gymunedau syn bodoli yng Nghymru. 

Mae hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y celfyddydau yn greiddiol ir Cwmni, felly rydym yn crosawu ceisiadau gan bobl o bob sector on cymuned, ar draws pob nodwedd warchodedig, gan gynnwys pobl o liw a phobl o hunaniaethau Du, Asiaidd neu o gefndiroedd ethnig arall, unigolion LHDT+ a/neu cwiar, byddar a/neu anabl, niwroamrywiol, unigolion sydd yn byw gyda salwch hir-dymor, iechyd meddwl, neu o gefndir incwm isel a dysgwyr yr iaith. 

Rydym yn awyddus i groesawu pawb sydd a diddordeb mewn cyfrannu at y cam nesaf yn nablygiad y Cwmni unigryw yma.

Gwneud cais:

Am ragor o wybodaeth cysylltwch :

Steve 01286 676 335 neu steve@theatrbaracaws.co.uk

Dyddiad cau: 07-05-24

Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig neu
anghenion o ran mynediad.