Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â'n tîm aml-sgil o Dechnegwyr Lleoliad sy'n gofalu am anghenion cyflwyniad technegol digwyddiadau sy'n digwydd yn ein gofodau. Dan oruchwyliaeth Rheolwr Technegol y Lleoliad, byddant yn cynorthwyo gyda'n gwaith cynhyrchu a derbyn i ddarparu gwasanaeth i holl gynyrchiadau Theatr Clwyd a chynyrchiadau ymweld o'r safonau uchaf posibl.
Ar gyfer y rôl hon, rydym yn chwilio am unrhyw gyfuniad o sgiliau ar draws y meysydd Gweithrediadau Llwyfan, Hedfan Gwrthbwysau, Goleuo, Sain a Chlywedol, ond rydym gyda diddordeb arbennig mewn cwrdd â phobl sydd â sgiliau mewn gweithrediadau llwyfan.
Croesewir ymgeiswyr sydd â chryfderau penodol mewn un neu ddau faes yn unig gan y bydd hyfforddiant ar gael i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau eraill lle bo angen.