Ymunwch â ni i gael rhagflas ecsgliwsif o Daith Persaidd Sahar Saki: Taith Drochi Trwy Gelf, Barddoniaeth a Diwylliant ar draws Cymru.

Ddydd Gwener 4ydd Ebrill o 7pm, bydd Oriel Elysium, Abertawe, yn cael ei thrawsnewid yn waith celf byw, anadlol, lle caiff barddoniaeth ei phaentio ar waliau mewn caligraffeg ysgubol, cerddoriaeth yn llenwi’r gofod, ac arogl dŵr rhosyn yn aros yn yr awyr.

Mae’r arddangosfa ymdrochol hon yn dod â murluniau ar raddfa fawr, gosodiadau, barddoniaeth gyfoes o Iran, a pherfformiadau byw ynghyd i greu gofod sy’n teimlo fel cornel ddeniadol, amlsynhwyraidd o Iran yma yng Nghymru.

Bydd y noson yn cynnwys sesiwn holi-ac-ateb arbennig gyda’r artist Sahar Saki, yn ogystal â darlleniadau gan feirdd lleol o weithiau beirdd cyfoes o Iran sy’n cael sylw yn yr arddangosfa.

Gwahoddir gwesteion i ymlacio a sipian te Persiaidd traddodiadol a mwynhau detholiad o felysion wrth iddynt ymgolli yn y profiad diwylliannol unigryw hwn.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn noson wirioneddol arbennig.

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.