Mae Company of Sirens yn cyflwyno taith ledled Cymru o ddrama gyffro-eco Water Wars gan Ian Rowlands.

Mae cynhyrchiad gafaelgar, dwyieithog newydd yn dod i leoliadau ledled Cymru dros y Gwanwyn.

Mae cwmni sefydledig Company of Sirens yn awyddus i gyhoeddi taith ledled Cymru o’r ddrama gyffro-eco newydd Water Wars gan y dramodydd Ian Rowlands.

Bydd y cynhyrchiad digyfaddawd dwyieithog hwn sy’n cael ei gyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg yn canolbwyntio ar un o argyfyngau amgylcheddol dybryd mwya’r ganrif.     

“Pwy sy’n berchen ar y glaw?”

Mae’r ateb yn anfon Cymru i ryfel.

Mae’r ddrama gynhenid a grymus hon yn delio â’r dyfodol agos dystopaidd, pan fydd prinder dŵr byd-eang yn creu gwrthdaro gwleidyddol a brad bersonol. Fel i brinder adnoddau rwygo cymunedau i ddarnau, mae’r ddrama yn ymholi gwerthoedd dynol, gwerth goroesi a’r effaith o ddirywiad amgylcheddol ar gymdeithas. Gyda’i ymdoddiad digyfaddawd sy’n treiddio cynllwynio gwleidyddol a straeon hynod bersonol, bydd y cynhyrchiad yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn y dadleuon pwysig ynglŷn â chynaladwyedd perchnogaeth a dyfodol ein bodolaeth.

“Beth sy’n gwneud i chi feddwl ein bod ni’n barod i sychedu i farwolaeth er mwyn i chi allu dyfrio lawntiau Surbiton?” 

Wedi ei chyfarwyddo gan Chris Durnall bydd Water Wars yn dod ynghyd ag actorion hynod brofiadol, yn gweu’r ddeialog Gymraeg a Saesneg yn gelfydd at eu gilydd i adlewyrchu reality dwyieithog y Gymru fodern. Mae’r ddrama yn un fyd-eang a lleol sy’n tanlinellu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad, ynghyd â mynd i’r afael â mater pwysig byd-eang.

Yn fwy na drama mae Water Wars yn alwad i weithredu, i Gymru ac i’r byd yn ehangach. Gyda phryderon amgylcheddol yn parhau i greu penawdau byd-eang mae’r ddrama hon eisiau herio, ysbrydoli ac egnïo cynulleidfaoedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Company of Sirens, Chris Durnall:  

"Mae’r ddrama Water Wars yn ddrama hynod bwysig i Gymru ac yn fyd-eang. Mae Ian Rowlands wedi creu naratif atgofus sy’n ein gorfodi i wynebu gwirioneddau anghyfforddus am ein ffordd o fyw a’r dewisiadau fydd rhaid i ni wneud. Rydym wrth ein bodd i ddod a’r ddrama hon i theatrau ledled Cymru a chynnig cynhyrchiad dwyieithog i benawdu pwysigrwydd ac emosiwn y stori."

Y Daith :

Atrium, Caerdydd : 25ain a’r 26ain Chwefror

Canolfan Celfyddydol Aberystwyth :  4ydd a’r 5ed Mawrth

Yr Egin, Caerfyrddin : 7fed Mawrth

Neuadd Dwyfor, Pwllheli : 11eg a’r 12fed Mawrth

Pontio, Bangor : 13eg Mawrth

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu : 17eg Mawrth

FFwrnes, Llanelli : 20fed Mawrth

Glowyr, Rhydaman : 21ain Mawrth

Torch, Aberdaugleddau : 25ain a’r 26ain Mawrth
 

Ian Rowlands:

Mae Ian Rowlands yn ddramodydd nodedig rhyngwladol o’r Rhondda yn wreiddiol.

Mae ei ddramâu yn cynnwys: Troyanne, Marriage of Convenience, Y Môr Tawel, Love in Plastic, Blue Heron in the Womb, Glissando on an Empty Harp, a llawer mwy.

‘Fe yw cydwybod theatrig y Gymru fodern' Western Mail

Company of Sirens:

Mae Company of Sirens yn un o gwmnïau theatrig cyfoes mwya nodedig Cymru, sy’n adnabyddus am gynhyrchu gwaith arloesol a phryfoclyd. Ers ei sefydlu mae’r cwmni wedi datblygu enw da ynglŷn â naratif heriol sy’n gwthio ffiniau y theatr fodern, ac yn canolbwyntio ar straeon gyda negeseuon grymus, cymdeithasol a gwleidyddol.

Gwybodaeth am docynnau: Bydd tocynnau ar gael yn swyddfa docynnau’r lleoliadau.

Mae’r cynhyrchiad yn addas i bawb dros 16eg mlwydd oed, a bydd cyfieithu byw ar gael drwy'r Ap Sibrwd.