Fel rhan o ddathliadau Pen-blwydd 30 mlynedd y Loteri Genedlaethol, bydd stori Berwyn Rowlands, sydd wedi neilltuo’i fywyd tuag at dynnu sylw at leisiau amrywiol drwy Ŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris yn cael ei hamlygu fel rhan o osodiad digidol rhyfeddol (paentiad data AI) ar iard Exhibition Road, Amgueddfa V&A yn Llundain.

Gan ail-ddychmygu ffasâd eiconig adeilad Iard Exhibition Road, Amgueddfa V&A, mae 'Symffoni'r Newidwyr Gêm' yn baentiad gwybyddol AI ac yn gelfwaith cyntaf o’i fath yn y DU gan Ouchhh Studio o Istanbul. Gan ddefnyddio technoleg wybyddol arloesol, mae’r gosodiad yn dal tonnau ymennydd saith ‘Newidiwr Gêm’ - arloeswyr sydd wedi cael effaith drawsnewidiol ar brosiectau Celfyddydol a Ffilm, ar lawr gwlad ac ar lefel eiconig - gan greu tafluniad hardd sy’n newid yn barhaus ac sydd wedi’i ysbrydoli gan eu taith, eu gwaith, eu hysbrydoliaeth, eu prosesau creadigol a’u heffaith.

Mae pob pennod o’r gwaith celf yn dod â gweledigaeth a brwdfrydedd unigryw pob Newidiwr Gêm i fywyd, o waith arloesol Berwyn ym maes ffilm LGBTQ+ i gyflawniadau amrywiol ei gyd-anrhydeddigion. Mae eu straeon wedi’u gweu gyda’i gilydd mewn tapestri digidol hudolus sy’n dathlu’r effaith ryfeddol a alluogwyd trwy chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da.

O'i gynhyrchiad cyntaf yn naw mlwydd oed yn ystafell flaen ei rieni yng Nghaergybi i sefydlu gŵyl sydd wedi dod yn llais blaenllaw wrth hyrwyddo sinema LGBTQ+, mae taith Berwyn fel stori glasurol o angerdd a dycnwch, a gafodd ei gwireddu drwy arian y Loteri Genedlaethol. Byddai ei gariad cynnar tuag at y sinema yn ei ysbrydoli’n ddiweddarach i drefnu ei ŵyl ffilm gyhoeddus gyntaf yn Aberystwyth yn 1989, a adwaenwyd fel Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru ac a oedd yn cynnwys penwythnos o ddathliadau ffilm LGBTQ+.

Yn 2006, sefydlodd Rowlands yr hyn a fyddai’n dod yn uchafbwynt ei yrfa: y Wobr Iris - y wobr ffilm fer LGBTQ+ fwyaf yn y byd, yn cynnig gwobr ddigyffelyb o £40,000. Dan ei arweinyddiaeth, mae’r ŵyl yng Nghaerdydd wedi ennill clod rhyngwladol, gan ymddangos ymhlith rhestr o 50 gŵyl ffilm orau’r byd yn y Movie Maker am bedair blynedd yn olynol. Cafodd arwyddocâd yr ŵyl ei gydnabod ymhellach pan wahoddwyd Rowlands i dderbyniad ar gyfer y Diwydiant Ffilmiau Prydeinig gan y Frenhines yn 2013.

Mae effaith yr ŵyl ar sinema LGBTQ+ wedi bod yn arwyddocaol, gyda 12 ffilm fer wedi’u cynhyrchu trwy Wobr Iris hyd yn hyn, gyda llwyddiannau nodedig yn cynnwys Burger a Followers a’r ddwy ffilm yn cael eu sgrinio yn yr Ŵyl Ffilmiau Sundance mawreddog. Yn 2016, dathlodd yr ŵyl ei 10fed pen-blwydd ac fe’i cydnabuwyd gan BAFTA fel gŵyl “A” list, gan nesáu’n awr at ei phen-blwydd carreg filltir yn 20 mlwydd oed yn 2026. 

Y tu hwnt i’w dathliad blynyddol o ffilm, mae Iris yn cynnal prosiectau addysg a chyrhaeddiad cymunedol hanfodol led led Cymru a’r DU, gan greu cyfleoedd i dalent newydd ac yn hyrwyddo dealltwriaeth drwy bŵer ffilm.

Trwy gydol ei yrfa, mae Berwyn hefyd wedi adeiladu portffolio trawiadol gan gynhyrchu ffilmiau ar gyfer sinema a theledu, gyda gwaith wedi’i ddarlledu ar y BBC, ITV a S4C. O fewn ei gredydau mae Llety Piod, ffilm deledu 90 munud gyda’r actor enwog Bill Nighy yn serennu.

Daw’r gydnabyddiaeth ar adeg deimladwy i Berwyn, a rannodd yn ddiweddar ei daith anhygoel o adferiad. Ar ôl bod yn yr ysbyty am bedwar mis gyda phancreatitis difrifol, gan golli bron traean o bwysau ei gorff a gorfod dysgu cerdded eto, mae’n canmol y GIG am achub ei fywyd a’r ŵyl ffilm am helpu ei adferiad.
 

Dywedodd Berwyn Rowlands:

Pob blwyddyn mae Gwobr Iris yn rhoi cyfle i rannu’r straeon LGBTQ+ gorau o bob rhan o’r DU. Mae’r ŵyl yn parhau i fod yn ddathliad o straeon byd-eang a swyn Caerdydd, gan amlygu straeon o’r gymuned LGBTQ+. Mae’r arian oddi wrth y Loteri Genedlaethol wedi bod mor bwysig i Wobr Iris – mae’n fwy na thlws sy’n casglu llwch neu dystysgrif sy’n melynu ar y wal. Mae Iris yn rhoi’r hyn sydd ei angen ar wneuthurwyr ffilm – arian, cefnogaeth, arweiniad a chynulleidfa newydd i’w gwaith.”

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Pen-blwydd 30 mlynedd y Loteri Genedlaethol yn garreg filltir bwysig, ac yn gyfle i fyfyrio ar yr holl bethau a gyflawnwyd dros y tri degawd diwethaf. Mae arian y Loteri Genedlaethol, ochr yn ochr â chyllid gan y llywodraeth, wedi cyffwrdd â sin Celfyddydau a Ffilm y DU mewn cymaint o ffyrdd - o adfer ein theatrau, i agor ein llygaid trwy orielau newydd, a’n dwyn ynghyd gyda chorau cymunedol, a llawer, llawer mwy."

"Rydyn ni'n falch iawn o gydnabod Berwyn Rowlands fel Newidiwr Gêm. Mae wedi cael effaith enfawr ar ffilm yng Nghymru ac nid yw byth yn ofni herio stereoteipiau ynghylch amrywiaeth a diwylliant yn y diwydiant ffilm. Mae'r anrhydedd hwn yn gwbl haeddiannol."


Dywedodd Ben Roberts, Prif Weithredwr Sefydliad Ffilm Prydain (BFI):

“Rydyn ni’n credu mewn nerth trawsnewidiol y diwylliant sgrîn er budd cymdeithasol, a all ddod â phobl a chymunedau’n agosach at ei gilydd, ac mae arian y Loteri Genedlaethol wedi bod yn allweddol i wneud hynny dros y tri degawd diwethaf. Mae wedi cael effaith anhygoel ar ein diwydiant ffilm cartref, ac mae’n helpu i adeiladu sector cynrychioliadol, teg a chynhwysol ar draws y DU sy’n ysbrydoliaeth i genedlaethau’r dyfodol. O greu llwybrau hygyrch i’r rhai sy’n breuddwydio am weithio mewn ffilm, i ddod â phrofiadau diwylliannol unigryw i gynulleidfaoedd. Mae arian y Loteri Genedlaethol hefyd wedi bod yn hanfodol wrth ddod â ffilmiau gwych o’r DU i’r sgrîn fawr, gyda llawer ohonynt yn ennill clod rhyngwladol ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd led led y byd. Mae’n wych dathlu’r Newidwyr Gêm a gyhoeddwyd heddiw - mae’r term yn gwbl haeddiannol. Diolch enfawr hefyd i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol; hebddynt, ni fyddai dim o hyn yn bosibl.”

I nodi 30 mlynedd ers tynnu’r Loteri am y tro cyntaf yn 1994, mae’r Loteri Genedlaethol yn dathlu 30 o bobl ysbrydoledig – Newidwyr Gêm – sydd wedi cyflawni pethau anhygoel led led y DU dros y 30 mlynedd diwethaf, gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.

Dewiswyd y saith Newidiwr Gêm Celfyddydau a Ffilm a gyhoeddwyd heddiw fel enghreifftiau o unigolion ymroddedig, ysbrydoledig, uchel eu cyflawniad sydd wedi cael effaith drawsnewidiol ar eu diwydiant, ac effaith sylweddol ar eu cymunedau a’u cymdeithas ehangach.

Dysgwch fwy yma: https://www.lotterygoodcauses.org.uk/gamechangers