Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn chwilio am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu creadigol i'n helpu i godi ein proffil, hybu ymgysylltiad gyda chynulleidfaoedd, ac i rannu ein stori ar draws nifer o lwyfannau.
21 awr yr wythnos
£25,500-£27,000 pro rata
36 diwrnod gan gynnwys Gwyliau Banc PA [pro rata]
Contract 12 mis
Mae Cwmni Theatr Taking Flight yn gyffrous i gyflwyno rôl Swyddog Marchnata a Chyfathrebu. Rydym yn edrych am unigolyn hyblyg, sydd â phrofiad o weithio o fewn y maes theatr neu debyg.
Bydd y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yn ymdrin â marchnata Taking Flight a phopeth cysylltiedig o ddydd i ddydd.
Cwmni theatr bychan ydym yng Nghaerdydd, sy’n cynghori eraill ynghylch sicrhau mynediad rhwydd a chynhwysol i theatrau, gan weithio at ennill cynrychiolaeth gyfartal yn y theatr i bobl Fyddar ac anabl.
Mae Taking Flight yn gyflogwr cynhwysol ac rydym yn annog ymgeiswyr o gymunedau ymylol yn weithredol.
Os oes gennych ddiddordeb, ac os hoffech ddysgu mwy am y swydd uchod, yna lawr lwythwch y swydd ddisgrifiad.
I wneud cais:
Gallwch anfon eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam y byddech chi'n ddelfrydol ar gyfer y swydd i admin@takingflighttheatre.co.uk
Gallwch hefyd anfon fideo o'ch llythyr eglurhaol a'ch CV atom yn y Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain. Danfonwch fideos i 07593821172.
Dyle’ch llythyr eglurhaol fod tua dwy ochr A4.
Dyddiad Cau:
Dydd Llun, Hydref 13ed, 5yp.