Rydym yn chwilio am berson i gefnogi Rheolwr Theatr Derek Williams gyda thasgau gweinyddol, cynorthwyo mewn digwyddiadau a delio gyda’r cyhoedd. Mae gofyn bod yn drefnus, medru cyd-weithio a chefnogi sawl prosiect ar unwaith.
· Cyflog: £13 yr awr ar gyflogres Cwmni Pum Plwy Penllyn
· Oriau: 1 diwrnod yr wythnos (7 awr yr wythnos) gyda chytundeb oriau blynyddol a threfniant TOIL yn ei lle
· Bydd peth gwaith penwythnosau ac oriau anghymdeithasol
· Lleoliad: Swyddfa yng Nghanolfan Henblas, Y Bala a’r dewis i weithio gartref
· Cyfnod prawf: 3 mis
I dderbyn swydd ddisgrifiad fanwl, ebostiwch theatrderekwilliams@gmail.com
Dyddiad cau: 10/11/2025