Ydych chi wrth eich bodd â cherddoriaeth, yn brofiadol yn marchnata, ac yn awyddus i weithio gyda cherddorion o'r radd flaenaf a hyrwyddo amrywiaeth eang o brosiectau cerddoriaeth a chyfryngau?
Mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn chwilio am Gydlynydd Marchnata hyderus a chreadigol i helpu i ddod â phrofiadau cerddorfaol a chorawl rhagorol i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt. Yn y swydd hon, byddwch yn cefnogi prosiectau cerddoriaeth cyffrous, gan gynnwys traciau sain Doctor Who a cherddoriaeth ar gyfer ffilmiau a theledu, cyngherddau byw, mentrau cymunedol, yn ogystal ag arddangos gwaith cerddorion BBC NOW.
Os ydych chi'n gallu darllen cerddoriaeth ac yn frwd dros y celfyddydau, dyma eich cyfle i ymuno â thîm marchnata ymroddedig y BBC yng Nghaerdydd, gan fod wrth galon y gwaith o hyrwyddo cerddoriaeth a’r celfyddydau.
Yn y swydd ddeinamig hon, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ymgyrchoedd marchnata hynod effeithiol – a fydd yn amrywio o siapio asedau creadigol i reoli ymgyrchoedd llai yn annibynnol. Byddwch yn cefnogi'r gwaith o gydlynu popeth – o ddigwyddiadau hyrwyddo ac ymgyrchoedd marchnata i gynnwys digidol, a chyfathrebu â chynulleidfaoedd – gan sicrhau bod neges y gerddorfa'n cyrraedd y bobl iawn mewn ffyrdd creadigol ac effeithiol.
Mae BBC NOW yn chwilio am rywun sydd â phrofiad ymarferol o farchnata ac sy’n drefnus, yn llawn syniadau, ac yn ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol. Mae sgiliau cyfathrebu cryf, creadigrwydd, a gallu darllen cerddoriaeth yn hanfodol i'r swydd.
Swydd cyfnod penodol am chwe mis yw hon, gyda'r posibilrwydd o estyniad.
Yn cau 22/07/2025