Mae’r broses yma wedi dod i ben erbyn hyn, ac mae’r camau nesaf yn glir.

Heddiw meddai Kath Davies, Cyfarwyddwr (Gwasanaethau Ariannu’r Celfyddydau):

"Bydd ein canllawiau newydd ar gael o 7 Hydref ymlaen ac o’r dyddiad yna bydd pobl yn gallu ymgeisio am grantiau mawr. Mae dau ddyddiad cau ar gyfer grantiau mawr yn y flwyddyn ariannol bresennol - 6 Tachwedd ac 8 Ionawr.

"Bydd grantiau bach i sefydliadau ac unigolion yn parhau fel rhaglen dreigl, a fydd ar agor o 14 Hydref ymlaen.

"Os oes gennych chi brosiect sy’n gymwys am grant y Loteri Genedlaethol, nawr yw’r amser i drafod y peth nawr gydag un o’n swyddogion datblygu. Wedyn ym mis Hydref byddwch chi’n gallu cael ffurflen gais.

"Byddwn ni hefyd yn cynnal cyfres o weithdai gwybodaeth am raglenni'r Loteri Genedlaethol newydd ledled Cymru ym mis Hydref a Thachwedd."

Dyma fanylion strategaeth newydd i ddosbarthu arian y Loteri Genedlaethol:

Rhaglenni gwaith

Yn dilyn ein hymgynghoriad, rydym ni wedi adolygu a diwygio ein rhaglenni ariannu gan wneud ein gorau glas i gynnwys eich awgrymiadau a newid pethau o ganlyniad.

Yn benodol yn ôl eich sylwadau, roedd ein proses ymgeisio yn aml yn “ddryslyd” a “chymhleth”. Rydym ni wedi mynd i’r afael â hyn drwy leihau nifer y gwahanol ffurflenni cais. Rydym ni hefyd wedi cael gwared ar ein ‘meysydd’ o ran ymgeisio.

Yn lle hynny, rydym ni wedi datblygu 8 rhaglen waith sy’n adlewyrchu ein cynllun corfforaethol:

  • Llwybrau creadigol
  • Cydraddoldebau strategol
  • Comisiynu, creu, cyflwyno
  • Rhyngwladol
  • Plant a phobl ifanc
  • Datblygu busnes
  • Cynyddu ymgysylltiad
  • Y celfyddydau ac iechyd

Diwallu blaenoriaethau Cyngor y Celfyddydau

Rydym ni wedi nodi blaenoriaethau clir i’w hariannu – am ragor o fanylion, edrychwch yn ein cynllun corfforaethol, Er Budd Pawb. Felly, os ydych chi’n gwneud cais, rhaid nodi sut bydd eich prosiect yn diwallu un neu ragor o’r blaenoriaethau yma a sut mae’n berthnasol i un o’r rhaglenni gwaith uchod.

Wrth ichi ymgeisio, gobeithio bydd y broses yn symlach ac yn fwy hyblyg. Rydym ni hefyd o’r farn bod yr hyblygrwydd yma’n fodd inni gydnabod ystod ehangach o syniadau da ac yn ffordd i beidio â cholli ceisiadau ardderchog nad ydyn nhw’n syrthio’n daclus i un o’n hen feysydd.

Trothwy ariannol

Rydym ni wedi gwrando ar eich sylwadau am faint y gallwch chi wneud cais amdano. Rydym ni wedi cynyddu uchafswm ein grantiau bach i £10,000 ac uchafswm ein grantiau mawr i £50,000.

Cyfraddau teg o gyflog

Rydym ni hefyd yn cytuno â’ch sylwadau am sicrhau bod pob artist a phob gweithiwr celfyddydol yn cael eu talu’n iawn. Erbyn hyn rydym ni’n nodi isafswm y cyfraddau tâl sy’n dderbyniol.

Lle mae angen rhagor o waith

Mae angen inni ddatblygu rhai agweddau ar ein gwaith. Yn benodol, mae’n rhaid ymgynghori’n bellach â’r sector i drafod model buddsoddi hir dymor i gomisiynu, creu a chyflwyno. Roeddem ni wedi clywed nifer o syniadau defnyddiol yn ystod yr ymgynghoriad, ond nid oedd yr un syniad wedi cael consensws clir. Felly, rydym ni am weithio gyda chi dros y chwe mis nesaf i fireinio hyn erbyn Ebrill 2020. Yn yr un modd, rydym ni’n neilltuo arian ychwanegol ar gyfer gwaith Cymraeg a byddwn ni’n parhau i weithio gyda chi ar y ffordd orau o ddatblygu’r gwaith a sicrhau ei safon.

Am y tro, byddwn ni’n cadw ein Cronfa i Wyliau, Teithio Cenedlaethol a Rhaglenni ar agor i geisiadau. Byddwn ni’n lansio cynlluniau newydd yn Ebrill 2020.

Sefydliadau datblygu busnes nad ydynt yn ein portffolio a rhaglenni eraill

Yn yr un modd, rydym ni o hyd yn datblygu gwaith ar ein Rhaglen Wytnwch i’r rhai nad ydyn nhw yn ein portffolio. Bydd y gwaith yn barod erbyn Ebrill 2020 neu cyn hynny.

Mae cyfle i artistiaid unigol a gweithwyr celfyddydol wneud cais am arian datblygu busnes o fis Hydref ymlaen. Ond byddwn ni’n edrych yn fanylach ar sut i gefnogi unigolion mewn ffordd fwy strwythuredig ar hyd eu gyrfa.

Bydd ein cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol a’n Rhaglen Gyfalaf yn ailagor ym mis Hydref gyda chyn lleied â phosibl o newidiadau, yn unol â’ch sylwadau.

Ehangu’r arbenigedd yn ein cyfarfodydd penderfynu

Rydym ni hefyd yn newid sut rydym ni’n penderfynu ar geisiadau.

Yn y dyfodol byddwn ni’n cynnwys ein Cydweithwyr Celfyddydol yn ein paneli. Mae’r Cydweithwyr yn bobl broffesiynol annibynnol ym maes y celfyddydau sy’n dod o bob rhan o Gymru a fydd yn cynnig ystod eang o wybodaeth arbenigol am eu sector a’u rhanbarth.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n tîm grantiau a gwybodaeth ar grantiau@celf.cymru neu 03301 242733.

Diwedd            Dydd Mercher 28 Awst 2019