Ym mis Gorffennaf eleni, bydd cwmni Mewn Cymeriad yn teithio’r ddrama un ferch ‘Kate’, am frenhines ein llên - Kate Roberts.

Y dramodydd a’r cyfarwyddwr yw Janet Aethwy, ac yn camu i esgidiau Kate fydd yr actores amryddawn, sy’n wyneb cyfarwydd iawn i ddilynwyr Pobol y Cwm, Sera Cracroft. Mae Sera wedi bod yn chwarae rhan Eileen ar Pobol y Cwm ers 1989. Dyma fydd y tro cyntaf iddi ymgymryd â drama un person, ac meddai:

‘Mae gen i gôf gweld llun du a gwyn o Kate Roberts yn ddynes oedrannus yn edrych dros ei sbectol, pan oeddwn i tua 9 oed, ar y wal yn Ysgol Plas. Dwi’n cofio meddwl bod hi’n drist ac yn cofio cysidro pam oedd hyn. Rhai blynyddoedd wedyn ges i’r cyfle i werthfawrogi ei gwaith pan chwaraeais ran Mrs Huws, gwraig annymunol y Gweinidog yn y ffilm Y Mynydd Grug, a gweld trwy ei chymeriadau cymaint o athrylith oedd hi fel llenor. Dwi’n edrych ymlaen at bortreadu cymhlethodod Kate Roberts, ac i ddychwelyd i’r llwyfan lle ddechreuais fy ngyrfa.’

Meddai Janet Aethwy:

‘Coronwyd Kate Roberts yn frenhines ein llên a gweithredodd yn ddi-flino a chydwybodol dros ei gwlad a’i hiaith drwy gydol ei hoes hir. Ond “gorfod sgwennu rhag mygu” oedd hi ac wrth i finnau sgwennu am un o’m hoff awduron Cymraeg, dechreuais ddeall beth oedd yn ei mygu a pham ei bod yn credu mai trasiedi yw bywyd yn ei hanfod. Tu ôl i bob storiwr da mae na stori well.’

Meddai Ffion Glyn o Mewn Cymeriad:

‘Ry’n ni fel cwmni wedi ymrwymo i ddod â hanes Cymru yn fyw i gynulleidfaoedd, hen ac ifanc, dros Gymru gyfan. Gyda’r cwmni yn dathlu’r 10 eleni, mae’n bleser gyda ni gynnig dilyniant i ddramau Cranogwen; Annie Cwrt Mawr , a Dai gyda drama am Kate Roberts.

Manylion y daith:

  • Neuadd Llanover, Caerdydd Iau, 11 Gorffennaf 2024, 7:30PM
  • Neuadd yr Hafod Gorsgoch, Llanybydder Gwener, 12 Gorffennaf 2024, 7:00PM
  • Capel Pencae, Pencaenewydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, 8:00PM
  • Neuadd y Nant, Clydach Llun, 15 Gorffennaf 2024, 7:00PM
  • Castell Aberteifi, Mawrth, 16 Gorffennaf 2024, 7:00PM
  • Yr Egin, Caerfyrddin, Mercher, 17 Gorffennaf 2024, 7:30PM
  • Theatr Fach LlangefnI, Iau, 18 Gorffennaf 2024, 7:30PM
  • Theatr Seilo, Caernarfon Gwener, 19 Gorffennaf 2024, 7:30PM

Bydd rhagor o ganolfannau yn y man yn cael eu cyhoeddi ar gyfer perfformiadau yn mis Medi 2024.

Tocynnau ar gael trwy wefan mewncymeriad.cymru