★★★★ The Scotsman 

Yn teithio Cymru yn dilyn llwyddiant ysgubol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 

Bydd sioe un fenyw newydd bwerus Frankie Walker, Angry Snatch: A reclamation job in 15 rounds yn cychwyn ei thaith yng Nghymru yr wythnos nesaf, yn llawn bwrlwm ar ôl llwyddiant mawr yr Ŵyl Ymylol y mis hwn.  Mae'r sioe, sy'n cael ei pherfformio mewn cylch bocsio maint llawn, yn agor yn Y Met, Abertyleri ddydd Mercher 4 Medi (7pm) cyn teithio i gasgliad o leoliadau a champfeydd bocsio cymunedol ledled Cymru, drwy fis Medi a mis Hydref. 

Mae’r gwaith wedi denu diddordeb a chanmoliaeth eang am adrodd straeon trawiadol a’r cyfuniad o ffurfiau theatr a bocsio. Gan gyfuno theatr gorfforol a dawns gyda'r gair llafar a rhythmau bocsio, mae Frankie yn gwahodd cynulleidfaoedd i ymuno â hi mewn myfyrdod gonest ar ei phrofiad hi ei hun ac eraill o gam-drin domestig, a’r rôl a chwaraeodd bocsio yn ei thaith tuag at iachâd ac adennill ei bywyd.

Ysgrifennodd a dyfeisiodd Frankie y gwaith ar y cyd â'r cyfarwyddwr Meg Fenwick a'r coreograffydd Cai Tomos, fel ffordd o wneud synnwyr o'i phrofiad. Wrth wneud hynny, mae’n cynnig cipolwg hanfodol ar yr agweddau llai gweladwy, dryslyd, rhwystredig o lywio, dianc a gwella ar ôl cam-drin domestig. 

Mae'r sioe yn canolbwyntio ar yr effaith enfawr a'r rôl y mae bocsio yn ei chwarae wrth rymuso dioddefwyr cam-drin domestig i wella ac adfer.  Mae’r sioe wedi’i gwneud mewn cydweithrediad â nifer o arbenigwyr a gwasanaethau cymorth cam-drin domestig, goroeswyr cam-drin domestig, yn ogystal ag aelodau o’r gymuned focsio gan ledaenu’r gair am fanteision y gamp wrth helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau a’u hyder.  Drwy wreiddio ei hun mewn cymunedau ar draws y daith, mae Frankie yn gobeithio cyrraedd cynulleidfa ehangach, gan godi ymwybyddiaeth o’r unigedd y mae dioddefwyr a goroeswyr yn ei brofi wrth geisio cymorth am yr hyn y maent yn mynd drwyddo, a chyfeirio cynulleidfaoedd at gyfeillgarwch a chefnogaeth i’r rhai sy’n profi cam-drin domestig.  

Cafodd y sioe ymateb gwych gan feirniaid a chynulleidfaoedd Caeredin fel ei gilydd, gyda phedair seren gan The Scotsman ac aelodau'r gynulleidfa yn cynnig ymatebion teimladwy.
 

  • Er bod y gwaith hwn yn ymwneud â rheolaeth orfodol a cham-drin domestig nid oes unrhyw drais yn y sioe
  • Mae'r perfformiad tua 70 munud o hyd.
  • Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru drwy Gronfa Cymru yng Nghaeredin a chan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth