Mae’r artistiaid Junko Mori a John Egan sydd yn byw ym Mhen Llŷn yn dechrau ar brosiect uchelgeisiol yn dwyn y teitl Coed / Coexist ac yn trefnu symposiwm fel man cychwyn. Hanfod y prosiect yw tynnu ein sylw at goed a choetiroedd, gan chwilio am gysylltiadau ehangach ynghyd a dyheadau a dibyniaeth ar yr ecosystemau hyn, tra’n cysylltu cymuned, creadigrwydd a stiwardiaeth amgylcheddol. Mae’r prosiect yn ei gyfanrwydd yn anelu at ddathlu’r ardal leol a’r cymunedau sydd wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn. Gan weithio gyda Plas Glyn-y-Weddw, sydd wedi ei leoli ar yr arfordir yn Llanbedrog, mae’r artistiaid yn trefnu symposiwm diwrnod o hyd i’w gynnal ddydd Sadwrn 14 Medi 2024.
Bydd y symposiwm yn gweithredu fel catalydd, gan ddod a naratifau diwylliannol, gwyddonol a lleol ynghyd i rannu a dathlu diddordeb a gwybodaeth unigol. Bwriad y digwyddiad yw sbarduno syniadau ar gyfer camau’r prosiect yn y dyfodol, gan gynnwys dull cydweithredol uchelgeisiol o arddangos gwaith creadigol newydd a chynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd a’r gymuned ym Mhlas Glyn-y-Weddw a’r cyffiniau yn 2026.
Gan ddefnyddio coed sydd wedi syrthio neu eu torri ar y penrhyn a choed o’r Winllan ym Mhlas Glyn-y-Weddw, bydd Coed / Coexist yn gwahodd cynigion gan bobl greadigol i wneud gwaith newydd fydd yn ysbrydoli a rhoi llwyfan i grefftwaith a dyfeisgarwch pobl greadigol a meddylwyr lleol.
Bydd y symposiwm yn cael ei hwyluso gan y cyflwynydd teledu a radio Daloni Metcalfe Owen gyda sgyrsiau a chyfraniadau gan; ysgogwyr prosiect Coed / Coexist a’r artistiaid arweiniol, Junko Mori; John Egan; y ffermwr glaswelltir a thirfeddiannwr, Dafydd Wynne Finch; Elusen Plantlife, yr arbenigwr cennau a bryoffytau, David Lamacraft a’r Swyddog Cyswllt Natur, Cassie Crocker; yr artistiaid, David Nash, Manon Awst, Deanne Doddigton Mizen a’r dylunydd tirwedd, Dan Bristow.
Bywgraffiadau yr artistiaid arweiniol:
Junko Mori
Ganed yn Yokohama, Japan ym 1974. Datblygodd ei chysyniad craidd, “tyfu ffurfiau trwy ailadrodd” o gwmpas graddio o Goleg Celfyddydau Camberwell, Llundain yn 2000. Symleiddiodd ei hymarfer a datblygodd ffurfiau mwy cerfluniol trwy ddefnyddio technegau gof traddodiadol. Sefydlodd ei gweithdy ym Mhen Llŷn yn 2010, lle mae wedi’i hamgylchynu’n llwyr gan natur ysbrydoledig. Mae ei gweithiau mewn llawer o amgueddfeydd rhyngwladol, gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Genedlaethol yr Alban ac Amgueddfa Gelf Honolulu.
John Egan
Mae Making Little yn deillio o werthfawrogiad dwfn o'r amgylchedd naturiol, ac mae'r dyluniad yn uniongyrchol gysylltiedig ag ef. Mae'n ceisio gwneud gwrthrychau hardd hirhoedlog a darnau untro, a thrwy hynny gloi carbon ym mhob gwrthrych a wneir. Dim ond deunydd o ffynonellau lleol y mae'n eu defnyddio, sy'n golygu bod ôl troed pob gwrthrych yn fach ac yn gweithio mewn cytgord â'u hamgylchedd. Yr amgylchedd a'i effaith arno yw ei egwyddorion arweiniol a dyma sy’n siapio ei ddyluniadau.
Cyllidwyr / Noddwyr
Ecoamgueddfa Llŷn sydd wedi noddi’r symposiwm hwn.