Bydd 'Siarad – Gwrando - Ailosod - Gwella' yn gyfres ar-lein gwbl hygyrch a fydd yn cael ei chynnal ar dri dydd Mawrth, y 3ydd, y 10fed a’r 24ain Tachwedd.

Gan gydnabod hiliaeth systemig a strwythurol yn y celfyddydau perfformio, nod y gynhadledd yw creu newidiadau gwirioneddol drwy drafodaeth ddidwyll, adeiladol ac uniongyrchol rhwng uwch-arweinwyr a'r gweithlu, artistiaid, asefydliadau amrywiol. Mae'r trefnwyr am i'r sectorau theatr a dawns gyflawni eu potensial drwy alluogi gonestrwydd a dewrder – gan ailadeiladu ar gyfer dyfodol cyfartal, cynhwysol a chyraeddadwy.

Mae'r fenter hon wedi cael ei chynllunio a’i harwain gan Amanda Parker o’r mudiad amrywiaeth Inc Arts UK (sy'n hyrwyddo hawliau creadigol, cytundebol ac economaidd gweithlu ethnig amrywiol y sector) a'r actor Kobna Holdbrook-Smith, mewn partneriaeth â’r Society of London Theatre/UK Theatre a Tali Pelman (Rheolwr Gyfarwyddwr Creadigol Grŵp Stage Entertainment).

"Er mwyn gwneud cynnydd cadarnhaol yn y sector, mae'n hanfodol ein bod ni’n rhannu'r hyn sydd wir yn digwydd, a'r hyn sydd wedi digwydd igweithlu ethnig amrywiol", meddai Cyfarwyddwr Inc Arts UK, Amanda Parker. "Bydd y Gynhadledd yma’n gyfle i gydnabod i briwiau hanesyddol, a bydd cyfle i rannu profiadau byw a’u cydberchnogi, a chyfle hefyd i ni yn y sector fod yn atebol. Mae gennym ni gyfle digynsail i wneud rhywbeth radical, heriol a gwych gyda'n gilydd: siarad am wirioneddau, gwrando, a chreu amodau ar gyfer newid a fydd yn ailadeiladu ac yn ailosod gan roi lle cwbl ganolog i gynhwysiant".

"Does neb yn ein maes ni’n gwneud unrhyw beth da ar eu pen eu hunain yn llwyr. Galwaf ar bawb, ar ba 'lefel' bynnag, ond yn enwedig arweinwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau, i fynychu ac ymwneud â'r mudiad yma er mwyn gweithio tuag at gynhwysiant a chydweithredu gwirioneddol. Tryloywder ynghylch camgymeriadau, anawsterau ac anghysur yw dechrau’r daith i adeiladu at fod ar ein gorau. Gyda'n gilydd," meddai Kobna Holdbrook-Smith, cydarweinydd y prosiect.

Mewn undod a thrwy gefnogi, mae amrywiaeth o gyrff y diwydiant wedi camu ymlaen i gefnogi'r gynhadledd hon. Y Prif Noddwyr yw Cyngor Celfyddydau Cymru, SOLT/UK Theatre a Tali Pelman.

Yn ogystal, mae Community Leisure UK, Creu Cymru, Ffederasiwn Theatrau'r Alban, One Dance UK a’r Theatres Trust yn Noddwyr y Gynhadledd.

Partner y Gynhadledd yw’r Independent Theatre Council. Bydd mwy o noddwyr a phartneriaid yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Fel sector nid ydym wedi gwneud digon i hwyluso newid digonol. Rydyn ni’n cefnogi'r Gynhadledd yma a'i dull gweithredu gan ei bod yn creu lle diogel a chefnogol i'r sgyrsiau hyn ddigwydd.  O ystyried yr heriau eithriadol mae'r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd, dyma gyfle i ni uno, cryfhau a chreu llwybr clir ar gyfer cyd-ddealltwriaeth a gwaith yn y dyfodol" meddai Julian Bird, Prif Weithredwr Society of London Theatre ac UK Theatre.

Bydd 'Siarad – Gwrando - Ailosod - Gwella' yn creu gofod ar gyfer cydnabod lleisiau, profiadau a phobl, a gall y rhai sydd â grym i wneud newidiadau wrando'n astud. Bydd gan arweinwyr a gweithwyr, y wybodaeth a'r mandad i symud ymlaen a gwneud newidiadau.

Dim ond ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol y diwydiant mae'r sesiwn cyntaf, sef 'Siarad a Gwrando'. Bydd hwn yn lle diogel i rannu profiadau gonest, a chaiff ei hwyluso gan Amanda Parker (Inc Arts UK). Gyda chaniatâd y cyfranogwyr, bydd rhai profiadau’n cael eu gwneud yn ddienw ac yn cael eu rhannu yn yr ail sesiwn, 'Gwrando – Ailosod', lle byddwn yn clywed am brofiadau uniongyrchol ac am hiliaeth yn yn y sectorau theatr a dawns.

Mae'r ail a'r trydydd sesiwn yn agored i unrhyw un yn y sector sydd â diddordeb mewn newidiadau ystyrlon, ac mae'r trefnwyr yn annog uwch reolwyr, pobl sy’n gwneud penderfyniadau ac aelodau bwrdd o bob rhan o'r sector i fynychu  - gyda meddwl agored. Bydd y cofrestru’n agor ddydd Mawrth 6ed Hydref am 12pm ar gyfer y tri sesiwn. Dilynwch y dolenni isod i gofrestru ymlaen llaw neu i archebu lle:

Ni fydd y sesiynau hyn ar gael i'w gweld ar ôl y digwyddiad fel recordiad, felly anogir holl weithwyr y sector i fynychu pob digwyddiad, gan mai hwn fydd yr unig gyfle i gymryd rhan.

I gydnabod y materion sy'n cael eu trafod, gall pawb sy’n bresennol wneud cyfraniad gwirfoddol at Inc Arts Minds, cronfa gymorth ar gyfer lles emosiynol gweithlu theatr a dawns ethnig amrywiol y DU.