I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac mewn cydweithrediad â'r ŵyl gelf Merched mewn Celf, Threads, ein gwestai yw'r hanesydd celf, Frances Borzello. Mae ei llyfr diweddaraf yn argraffiad wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru'n llawn o A World of Our Own, un o'r archwiliadau cyntaf o sut mae menywod bob amser wedi ymarfer fel artistiaid, ond ers canrifoedd, wedi cael eu hanwybyddu yn y byd celf.  Roedd eu gwaith yn cael ei ddiystyru fel gwaith eilradd, ac fel presenoldeb heb ei groesawu mewn proffesiwn wrywaidd. Mae'r llyfr yn archwilio sut y gwnaeth menywod, yn groes i'r disgwyl, oresgyn yr anawsterau hyn. 

Frances Borzello yw awdur The Naked Nude, Seeing Ourselves: Women's Self-Portraits ac At Home: The Domestic Interior in Art, a gyhoeddir gan Thames & Hudson. 

Dydd Iau 6 Mawrth – 7.30

Am docynnauevents@artshopandchapel.co.uk – 01873 852690/736430