Mae Cymru’n genedl o bobl sy’n adrodd straeon. Dwed dy stori di...

Ces i fy ngeni yng Nghaerdydd. A finnau’n saith oed, fe symudon ni i’r gorllewin i bentre bach o’r enw Capel Dewi, sydd yn Nyffryn Clettwr yn ne Ceredigion.  Symudon ni i arfordir y gorllewin, i bentre bach tawel iawn, anghysbell iawn, lle roedd rhywun yn cael magwraeth ddelfrydol. Creu telynau yw gwaith fy nhad, felly roedd cerddoriaeth Gymreig wastad i’w chlywed o’r gweithdy, sef hen felin wlân oedd y drws nesaf i’r breuandy lle roedden ni’n byw. Fe ges i fy magu yn sŵn y gerddoriaeth honno, a dweud y gwir, ac rydyn ni yn deulu cerddorol iawn. Mae fy rhieni ill dau’n canu ac yn chwarae, ac mae’r cyfan yn rhan o fywyd y teulu. Roeddwn i’n ffodus iawn fy mod i’n gallu cerdded i’r ysgol oedd dafliad carreg i ffwrdd, yn ogystal â’r siop a’r neuadd yn y pentre. Fe dreuliais i fy mhlentyndod mas yn chwarae ar ffermydd ac yn cael amser bendigedig. 

Fe adawais i fynd i’r brifysgol yng Nghaerfaddon i astudio cerddoriaeth, cyn cael swyddi ar ôl graddio yn gwneud pob math o bethau, yn cynhyrchu ac yn chwarae mewn gwahanol fandiau ac ati. Am sbel, mi fues i’n gweithio yn Real World Studios i Peter Gabriel, ac yn teithio. Fe weithiais hefyd i label arall ac aeth hynny â fi i bedwar ban byd. Fe ges i bob math o brofiadau amrywiol, ac yn enwedig y cyfle i glywed cerddoriaeth frodorol a cherddoriaeth werin o wledydd eraill. Rhoddodd hynny safbwynt gwahanol iawn imi, mae’n siŵr, o fy ngwreiddiau neu fy magwraeth fy hun. Yn bendant, fe newidiodd hynny rywbeth o ran gwneud imi werthfawrogi fy niwylliant a fy nhraddodiad fy hun yn well. Ar ôl byw yn Lloegr am sbel, fe ddychwelais i Gymru gyda’r gwerthfawrogiad newydd yna, a’r ysfa newydd i geisio cynnal y traddodiad hwnnw ac arloesi gydag e. A dyna ble’r ydw i arni heddiw.

 

 

Beth yw dy gysylltiad di â dy gornel fach o Gymru?

Wel, mae’r cysylltiad daearyddol yna. Rwy’ wedi bod yma am y ddeg mlynedd ar hugain ddiwetha, fwy neu lai. Mae’n ardal rwy’n ei hadnabod yn dda. Rwy’n adnabod y bobl. Rwy’n adnabod y ffordd o fyw, y diwylliant, yr iaith, y dafodiaith. Ac mae’r tirlun yn annwyl iawn imi hefyd. Mae teithio drwy’r tirlun hwnnw’n rhywbeth rwy’n ffodus iawn o allu’i wneud – crwydro’r llefydd hyn sy’n llawn straeon. Felly dyna fyddai fy nghysylltiad, mae’n siŵr. Mae’n berthynas y mae rhywun yn ei byw.

 

 

Mae gan Gymru straeon am gymeriadau sy’n filoedd o flynyddoedd oed, hyd at rai’r dydd hwn. A yw dy gerddoriaeth di’n cysylltu â’r rhain, a beth yw eu stori?

Dydw i ddim mor siŵr am y cymeriadau, ond mae gen i straeon yn bendant. O ran y gerddoriaeth rwy’n ei chwarae, sef cerddoriaeth werin yn ei hanfod, mae’r holl fyd yn grwn yn adrodd straeon, yn y geiriau. Does dim cymaint o hunanaddoli ag y cei di mewn cerddoriaeth bop. Felly mae straeon yn ganolog i’r holl blot, a dweud y gwir, ac yng Nghymru yn benodol mae gennyn ni draddodiad llenyddol a thraddodiad barddol cryf iawn. Felly mae’r gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru yn tarddu o hynny. Mewn sawl ffordd, rwy’n credu mai dyna sy’n ei gwneud hi’n wahanol i gerddoriaeth y gwledydd Celtaidd arall, sef bod y gerddoriaeth yn ffordd o fynegi’r grym barddol, neu o gyfathrebu’n farddol. Felly mewn rhai ffyrdd, mae’r gerddoriaeth ychydig yn symlach, ond mae geiriau’n ganolog iawn i’r cyfan. 

O ran straeon, mae gen ti’r holl ddeunydd arferol y cei di mewn cerddoriaeth werin – cariad a phriodi, marwolaeth, twyll – ond hefyd mae yma addoli byd natur, sy’n deillio yn ôl i gyfnod Dafydd ap Gwilym yn y canol oesoedd, ac mae’n ddrych ar ffordd o fyw sydd wedi diflannu mewn ffordd. O ran dweud stori, dyna un peth pwysig i mi, sef edrych ar y gorffennol a deall sut roedd pobl yn byw a beth oedd yn mynd trwy’u meddyliau nhw.

 

 

Mae ieithyddiaeth ac iaith yn rhan fawr iawn o ddiwylliant Cymru. Pam eu bod nhw mor arbennig?

Wel, mae’n ffurf unigryw ar fynegiant. Mae iaith yn lens i weld y byd drwyddi, ac mae gweld y byd drwy un o’r ieithoedd hynaf erioed yn Ewrop, iaith sy’n wahanol i’r diwylliant sy’n cylchdroi o amgylch y byd Seisnig, yn rhodd. Mae’n rhoi safbwynt gwahanol ar fywyd i rywun, ac yn newid sut rydyn ni’n cysylltu â’n gilydd. Mae’n iaith haws i greu perthynas â hi na’r Saesneg, o bosib. Ac yna mae’r elfennau tafodieithol hefyd. Weithiau byddwn ni’n ei chael hi’n anodd deall pobl o’r gogledd ac i’r gwrthwyneb, felly mae tafodieithoedd lleol ac ieithyddiaeth leol ar waith fan hyn. Mae gan y rhain eu hymdeimlad eu hunain o le a’u chwiwiau eu hunain a’u hynodrwydd eu hunain hefyd. Felly mae hynny’n bwysig, sef bod cymaint o amrywiaeth o fewn Cymru.

 

 

Mae Cymru’n aml wedi bod yn enwog fel gwlad o chwedleuwyr, a thithau yn eu plith drwy dy gerddoriaeth. Wrth i Gymru esblygu ac wrth i seiniau newydd ddod i’r amlwg, i ba fath o Gymru y bydd y fflam yn cael ei throsglwyddo yn y dyfodol?

Beth sydd wedi newid yn y 30 mlynedd ddiwethaf, neu efallai yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, yw ein bod ni’n dod mas o gyfnod ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif lle’r oedd yr iaith yn dirywio’n llwyr. A doedd dim llawer o falchder gennyn ni. Fel cenedl, mae’n swnio’n hurt, ond yn sicr roedd cenhedlaeth fy rhieni yn perthyn i genhedlaeth a welai’r Gymraeg fel cam yn ôl, a Saesneg fel y ffordd ymlaen. Roedd yr iaith yn cael ei gweld fel rhywbeth amherthnasol i’r byd modern. Ac mae hynny wedi newid. Diolch byth, mae’r naratif yna wedi newid yn sicr, a dydy’r agwedd honno ddim yn un rwy’n ei gweld yng Nghymru bellach. Felly mae gennyn ni genhedlaeth newydd o bobl sy’n ymfalchïo yn eu treftadaeth a’u diwylliant, ac sy’n teimlo’n angerddol dros gynnal hynny. Felly, y cyfan alla’ i ei wneud mewn gwirionedd yw cadw’r fflam ynghyn. Wrth wneud hynny, efallai y galla’ i greu rhywbeth newydd, ond hefyd roi llais iddo. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â gwreiddioldeb eto, ac rwy’n teimlo bod hynny’n bwysig. 

Mae perygl o hyd bod pethau’n mynd yn unffurf, ac mae hynny’n digwydd mewn cerddoriaeth werin hefyd. Byddwn ni i gyd yn chwarae’r un fersiwn o alawon yn y pen draw gan nad yw pethau’n cael eu trosglwyddo ar lafar. Felly wrth wneud rhywbeth rhanbarthol sy’n lleol imi, rwy’n gobeithio y bydd hynny’n creu rhywbeth sydd fymryn yn fwy unigryw. Felly mae’n sicr yn ymwneud â dathlu diwylliant Cymru, ond hefyd mae’n ymwneud â dathlu diwylliant lleol, a gobeithio y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ymfalchïo yn hynny hefyd.

 

 

Beth yw dy gysylltiadau Celtaidd di?

Rwy’n dyfalu bod math o frawdoliaeth yn bodoli rhwng y gwledydd Celtaidd, a hwythau’n wledydd ac yn bobl sydd wedi’u gormesu ar y cyfan. Mae yna undod, rwy’n credu, a chydnabyddiaeth bod parhau neu gynnal y diwylliant yn rhywbeth sy’n gofyn am waith parhaus. Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n digwydd wrth gicio dy sodlau’n gwneud dim byd.Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid parhau i roi sylw iddo, oherwydd os na wnei di hynny, bydd yn edwino.Felly dyna fy ymdeimlad i Geltigrwydd, o bosib.

 

 

Rwyt ti ar fin cael cyfleoedd rhyngwladol newydd. Pa fath o gydweithio neu gyfleoedd rwyt ti’n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw?

Dydw i ddim wedi treulio llawer o amser yn yr Alban, nac yn Iwerddon eto, fel perfformiwr. Rwy’n edrych ymlaen at fynd â’r gerddoriaeth at gynulleidfaoedd newydd ac at gyfarfod cerddorion eraill o’r gwledydd Celtaidd a gweld beth sydd gennyn ni’n gyffredin. Ac ie, byddai’n braf cydweithio â phobl. Ond y peth mawr fydd mynd â fy niwylliant mas o fy nwy filltir sgwâr, ac fy helpu i fyfyrio am fy niwylliant drwy lygaid pobl eraill, mewn ffordd. Dyna rwy’n edrych ymlaen ato.