Mae dangos llwyddiant a nodi dysgu yn rhan greiddiol o werthuso – bydd y sesiwn hon yn darparu proses i chi a’ch sefydliad ei dilyn er mwyn eich helpu i ddiffinio a chasglu’r holl wybodaeth, ffeithiau a ffigurau pwysig.
Bydd y sesiwn hon yn dangos i chi sut i gyd-ddylunio fframwaith gwerthuso â’ch cydweithwyr i’ch helpu i ddangos amcanion a chanlyniadau eich sefydliad – boed hynny’n gysylltiedig â mwynhad, amrywiaeth, effeithiau cymdeithasol neu economaidd neu feysydd eraill sy’n bwysig i’ch sefydliad.
Byddwn yn trafod modelau safonol ac yn dangos i chi sut i ddefnyddio gwahanol fathau o ddata ar gyfer gwerthuso gweithgareddau ar draws eich sefydliad – rhai meintiol neu ansoddol. P'un a ydych chi'n chwilio am broses effeithiol neu eisiau deall elfennau penodol o werthuso neu gasglu data, bydd y sesiwn hon yn darparu ffyrdd ymarferol i chi ymgorffori strategaethau gwerthuso yng ngwaith eich sefydliad.
Dyddiad: Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023 1:30 PM – 3:00 PM
Archebu lle: https://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/984376
Pwy:
Ar gyfer unigolion mewn rolau arwain uwch neu ganolig sy’n gyfrifol am werthuso a monitro gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, boed hynny’n barhaus neu fel rhan o brosiect, ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau ac ehangu eu dealltwriaeth o ran defnyddio data at ddibenion gwerthuso ar draws eu sefydliad – boed hynny ar gyfer cynllunio busnes, eiriolaeth, codi arian neu adrodd.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:
Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am dechnegau a phrosesau gwerthuso. Bydd hyn yn eich helpu i gynllunio a mesur llwyddiant yn ogystal â dangos gwerth dulliau gwerthuso effeithiol yn eich sefydliad.
Hwylusydd:
Jonathan Goodacre, Uwch Ymgynghorydd (Rhyngwladol)
Fformat:
Mae’r sesiwn hon yn weminar 90 munud ar ffurf gweithdy, gyda'r cyfle i ofyn cwestiynau.
Cost: Am ddim