Clebran 2024:

At the Crossroads, Where Spirits Gather

Ar y Groesfordd, Lle Mae Ysbrydion yn Cwrdd

Taibhsí Ag An Gcrosbhóthar

Syniadau a straeon yn cwrdd â thrafodaeth a pherfformiad

yn Lleisiau Eraill Aberteifi

31 Hydref – 2 Tachwedd 2024

Prif Awditoriwm, Mwldan, Aberteifi | Cardigan

·  Trafodaethau eang rhwng pobl ysbrydoledig o bob cefndir

·  Cynulliad Derwyddon – defod i agor Clebran 2024

· Elfen newydd sbon ar gyfer yr ŵyl – Clebran ar hyd y Llwybr

·  3 diwrnod o sesiynau Clebran a Clebran ar hyd y Llwybr wedi’u cynnwys ym mhris tocyn gŵyl

 

Mae Clebran yn dychwelyd i’r Mwldan yn 2024 fel rhan o ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi rhwng 31 Hydref a 2 Tachwedd eleni. Tridiau o drafodaethau eang rhwng pobl ysbrydoledig o bob cefndir, sy’n anelu at ysbrydoli, archwilio a diddanu, ochr yn ochr â pherfformiadau a fydd yn plesio.

Bydd trafodaeth a pherfformiad gan amrywiaeth gyffrous o leisiau gan gynnwys cerddorion ac artistiaid, derwyddon a llên-werinwyr, gwleidyddion ac athrawon, awduron, newyddiadurwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes pêl-droed, dawnswyr a ffermwyr, a byddant i gyd yn ymuno â ni i lywio sgyrsiau ynghylch cymuned, cyd-dynnu, traddodiadau a defodau.

Mae’r ŵyl yn agor ar yr 31ain o Hydref gyda chynulliad o dderwyddon. Ar y noson Galan Gaeaf hon, bydd Derwydd Dingle, Julí Ní Mhaoileóin, yn ymuno â’r Derwydd o Gymru Carys Eleri i berfformio defod sy’n dathlu chwaer genhedloedd yn dod at ei gilydd ac yn nodi Nos Galan Gaeaf/Samhain.

I gyd-fynd â’r ddefod, a gynhelir ym mhrif awditoriwm y Mwldan, ceir trafodaeth – ‘Y Paganiaid Newydd’ – rhwng y ddau dderwydd a’r llên-werinwr, yr archaeolegydd a’r darlithydd Dr Billy Mag Fhloinn er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer y digwyddiad.

Ddydd Gwener y 1af o Dachwedd, bydd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru Noel Mooney yn ymuno â’r cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Is-lywydd UFEA/Aelod o’r Pwyllgor Gwaith a’r Athro Polisi Cyhoeddus Laura McAllister a’r ysgrifennwr/cyflwynydd Darren Chetty i siarad am ymgyrchu a chyd-dynnu cymunedol ym maes pêl-droed, y tu hwnt i ffiniau’r cae yn “You’ll Never Walk Alone”.

Mae Delyth Jewell AS, yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost a’r academydd theatr Marianne Kennedy yn ymuno â’r hanesydd a’r ysgrifennwr Christopher Kissane i archwilio ailfeithrin cysylltiadau hynafol ar draws Môr Iwerddon yn wyneb byd ôl-Brexit yn y panel ‘Mewn Undod Mae Nerth’… am beth allwn obeithio o'r dirwedd ddatblygol hon?

Ddydd Sadwrn yr 2il o Dachwedd, bydd y darlithydd Dr Lowri Cunnington Wynn, cyfarwyddwr creadigol Blueprint James Dovey a’r dawnsiwr, ffermwr, a’r ymgyrchydd cymunedol Edwina Guckian yn trafod y weithred radical o aros yn yr unfan gyda Christopher Kissane yn ‘Man Gwyn Man Draw?’. Ceir hefyd perfformiad dawns gan Edwina Guckian fel rhan o’r panel hwn.

Ddydd Sadwrn hefyd, mae ‘Tir Cyffredin’ yn dod â lleisiau o naill ochr i Fôr Iwerddon at ei gilydd i drafod hanes cyfoethog ffermio a bwyd yn y ddau gyd-destun. Mae’r newyddiadurwr a’r ffermwr organig Hannah Quinn-Mulligan yn siarad â’r awdur a’r garddwr Carwyn Graves o dan fugeiliaeth hynaws yr ysgrifennwr hanes bwyd Christopher Kissane.

Yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, mae ‘Nawr yn Chwarae’ yn dod â Tumi Williams (Skunkadelic/Afrocluster/Starving Artists) a Max Zanga (Filmore/Tebi Rex) at ei gilydd i drafod y gwaith ysbrydoledig y maen nhw’n ei wneud, ar y llwyfan ac oddi arno, i hyrwyddo cerddoriaeth ddu yng Nghymru ac Iwerddon yn y drefn honno.

Yn newydd ar gyfer 2024, mae gennym Clebran ar hyd y Llwybr – sgyrsiau agos atoch â cherddorion a gynhelir mewn lleoliadau Llwybr Cerdd o gwmpas y dref. Mae’r lein-yp i'w gyhoeddi.



Mae band arddwrn Lleisiau Eraill yn rhoi mynediad i chi i holl drafodaethau Clebran a Clebran ar hyd y Llwybr (ar sail y cyntaf i’r felin). Gweler www.othervoices.ie am ragor o fanylion.

Lleisiau Eraill Aberteifi yw’r ŵyl gerddoriaeth a syniadau Cymru-Iwerddon a rhaglen deledu a ysbrydolwyd gan y gyfres gerddoriaeth Wyddelig enwog (Other Voices). Cynhelir yr ŵyl dros dridiau rhwng 31 Hydref a 2 Tachwedd eleni, a bydd yn rhoi llwyfan i amrywiaeth aruthrol o ddigwyddiadau cerddorol a diwylliannol mewn lleoliadau agos atoch a gofodau llawn naws ledled tref Aberteifi.

Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cronfa Gymodi'r Adran Materion Tramor a chaiff ei chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ffyniant Bro a gefnogir gan Gyngor Sir Ceredigion. Bydd Triongl yn ffilmio’r digwyddiad er mwyn ei ddarlledu nes ymlaen ar RTÉ.