Manylion:

Dydd Sul 1 Mehefin
Sesiwn Clai Am Ddim, Bandstand Aberystwyth 10:00am i 2:00pm 

Sul 15 Mehefin
Sesiwn Clai Am Ddim, Hwb Penparcau 10:00am i 2:00pm Dydd 

***

Sesiynnau cael blas yr Ŵyl: dewch i ymrafael â chlai!

Cynhelir yr Ŵyl Rhyngwladol Serameg unwaith eto eleni yn ei chartref yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth o 27 i 29 Mehefin. Mae'r ŵyl yn enwog am ei hamrywiaeth o danio mewn odynau yn ystod y penwythnos, pob un wedi'i danio yn yr awyr agored ar y safle, am ddim i bawb eu gweld. Bydd llawer o fwg, fflamau a chyffro wrth wylio odynau'n cael eu cynnau â'u cynnal - a gwrthrychau hardd yn dod i'r amlwg pan fydd y broses wedi'i chwblhau.

Fel blas o'r hyn y mae'r ŵyl yn ei gynnig, ymunwch ag aelodau o dîm yr ŵyl am ddwy sesiwn pop-up am ddim lle gallwch chi faeddu eich dwylo a gwneud rhywbeth allan o glai. Cynhelir y sesiynnaul yn y bandstand ar brom Aberystwyth rhwng 10:00am a 2:00pm ar ddydd Sul 1 Mehefin, ac yn Hwb Penparcau ar ddydd Sul 15 Mehefin - galwch heibio a chymryd rhan yn y gweithgaredd hwyliog hwn i bob oed. O dan arweiniad arbenigol, gall unrhyw un sy'n ddigon dewr roi cynnig ar daflu pot ar olwyn eu hunain. 

Bydd popeth a wneir yn ystod y sesiynau dros-dro hyn yn cael ei danio mewn odyn gasgen draddodiadol yn ystod y brif ŵyl a gellir ei gasglu ddydd Sul 29 Mehefin.

Darperir gwybodaeth lawn am yr ŵyl ei hun yn y sesiynnau, a bydd cynnig arbennig am docynnau gostyngol i drigolion Aberystwyth a'r cylch.

Am gyfle gwych i bawb - ac efallai y byddwch chi'n darganfod eich hoff beth newydd!

***

Gŵyl Rhyngwladol Serameg 2025

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth SY23 3DE Dydd Gwener 27-29 Mehefin 2025

Dyddiad cau: 15/06/2025