Bydd y sesiwn yn cynnwys dau gyflwyniad. Y cyntaf gan Lisa Schwartz o yl Werin Philadelphia. Lisa yw Cyfarwyddwr Rhaglennu’r Ŵyl sy’n cael ei gydnabod fel gŵyl gerddoriaeth awyr agored barhaus hynaf Gogledd America. Bob blwyddyn mae'r digwyddiad yn croesawu dros 35,000 o ymwelwyr ac yn cyflwyno dros 75 awr o gerddoriaeth ar draws wyth llwyfan. Yn 2020, bu’n rhaid i’r ŵyl wneud y penderfyniad i gyflwyno profiad rhyngweithiol gwbl ddigidol, ynghyd â ffrydiau lluosog o gerddoriaeth wedi’i churadu, nodweddion sgwrsio, sesiynau meic agored tanau gwersyll, meysydd gwersylla Zoom, sioe grefftau, pebyll bwyd a nwyddau.

Bydd Lisa yn siarad am eu profiad yn 2020, sut y gwnaethon nhw ail-fodelu busnes yr ŵyl, yr hyn a ddysgon nhw o gyflwyno gŵyl ar-lein a sut maen nhw'n symud ymlaen eleni ac i’r dyfodol, ar ôl COVID-19.

Bydd yr ail gyflwyniad gan Manon Rees O’Brien o Tafwyl. Manon yw Prif Weithredwr Menter Caerdydd, sy'n gyfrifol am drefnu Tafwyl yng Nghaerdydd. Yn cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd, mae'r digwyddiad yn denu hyd at 40,000 o ymwelwyr yn ystod wythnos o offrymau ymylol a phenwythnos yr ŵyl ym mis Mehefin bob blwyddyn. Oherwydd Coronavirus, cyflwynodd Tafwyl ŵyl ddigidol am ddim yn 2020, ac eto eleni, gyda ffrydio perfformiadau cerddorol yn ogystal ag amrywiaeth eang o drafodaethau a gweithdai i bobl o bob oed. Eleni, dewiswyd Tafwyl fel digwyddiad prawf gyda chynulleidfa fyw o 500 o bobl yn cael eu gwahodd i Gastell Caerdydd, ar gyfer y perfformiadau gyda'r nos, a gafodd hefyd eu ffrydio'n fyw ar blatfform AM.

Bydd Manon yn siarad am ei phrofiad o drefnu a llwyfannu Tafwyl yn ystod 2020 a 2021, y materion a wynebwyd ganddynt a'r gwersi a ddysgwyd, a sut y bydd yn effeithio ar Tafwyl yn y dyfodol.

Bydd cyfle hefyd i gael sesiwn holi ac ateb gyda'r cyflwynwyr a swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru.

Os hoffech chi fod yn bresennol, yna rhowch wybod i Helen Williams trwy e-bost (helen.williams@celf.cymru) a bydd hi’n anfon dolen Zoom atoch. Bydd cyfieithiad Cymraeg ar gael.