Cyfrannodd Georgia Ruth gyfres fideo pedair rhan at y Cwtsh Creadigol, adnoddau llesiant sy'n cefnogi staff iechyd a gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae'r gantores o Gymru, Georgia Ruth, yn cynnig 'cysur a phleser' y profiad o ysgrifennu caneuon i weithwyr iechyd a gofal Cymru mewn cyfres o fideos newydd i gefnogi eu hiechyd a'u lles.
Mae enillydd Gwobr Gerddoriaeth Cymru, sydd wedi bod yn ysgrifennu caneuon ers iddi fod yn chwech oed, yn un o’r 50 artist sydd wedi cyfrannu at y Cwtsh Creadigol – adnodd llesiant creadigol ar-lein sy'n defnyddio grym adferol y celfyddydau i gefnogi staff y GIG a gofal cymdeithasol. Yn ystod pedair sesiwn fideo fer, mae Georgia yn hyfforddi gwylwyr yn y broses o ysgrifennu geiriau caneuon, dod o hyd i alaw sy'n gweddu i'r geiriau ac yna'n archwilio ffyrdd o gyfeillio'r gân maen nhw wedi'i chreu.
Dywedodd: "Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae fy nheulu wedi profi yn bersonol pa mor galed mae staff iechyd yn gweithio ar ran eu cleifion. Mae'n hanfodol bwysig eu bod nhw'n cael cyfle i ofalu amdanyn nhw eu hunain hefyd.
"Mae ysgrifennu caneuon a chyfansoddi cerddoriaeth wedi bod yn ffordd bwysig i mi brosesu pethau mewn ffordd iach. Mae ymlacio am 15 munud i chwarae cerddoriaeth a rhoi cynnig ar lunio cân heb unrhyw bwysau i ragori na chyflawni’n ffordd i chi ymfynegi a chysylltu â’ch teimladau. Mae hynny mor bwysig, yn arbennig ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal sy'n rhoi cymaint o'u hamser a'u hegni i ofalu am bobl eraill."
Crewyd y Cwtsh Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fel diolch gan sector celf y genedl i staff prysur y GIG a gofal cymdeithasol, yn erbyn cefndir o dystiolaeth gynyddol o effaith gadarnhaol y celfyddydau ar iechyd a lles.
Mae artistiaid o bob rhan o Gymru yn dod ag amrywiaeth o weithgareddau creadigol yn fyw ar y wefan – barddoniaeth, jyglo, bît bocsio, dawnsio a ffotograffiaeth – i helpu staff iechyd a gofal i ymlacio o’u gwaith, codi eu hysbryd a hybu eu lles.
Dywedodd Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym wrth ein bodd o allu rhannu talentau cerddorol Georgia Ruth â staff iechyd a gofal Cymru drwy’r Cwtsh Creadigol.
"Ein nod o hyd yw datblygu adnoddau llesiant creadigol gwych â'r staff gofal ac iechyd ac mae hynny wedi bod yn bosibl dim ond gyda mewnbwn parhaus artistiaid talentog o bob cwr o Gymru fel Georgia Ruth.
"Rydym ni'n gobeithio y bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo bod y sesiynau'n rhoi cysur, hwyl a chyfle i ymfynegi yn ystod adegau anodd ac yn hwb i'w lles."
Mae'r Cwtsh Creadigol a grewyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o raglen barhaus o waith partneriaeth ym maes y Celfyddydau ac Iechyd sy'n codi ymwybyddiaeth o'r manteision lles sy’n hen ddigon hysbys o gymryd rhan yn y celfyddydau.
Lluniwyd yr adnoddau mewn ymgynghoriad â Gwella Addysg Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Cydffederasiwn GIG Cymru, Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd ym mhob Bwrdd Iechyd, yn ogystal â grwpiau ffocws o weithwyr gofal iechyd.
Mae sesiynau Georgia Ruth ar gyfer y Cwtsh Creadigol i'w gweld yma
https://cwtshcreadigol.cymru/sgwennur-gan-sydd-ynddoch-chi-heddiw
Am ragor o wybodaeth, neu am gyfleoedd i drefnu cyfweliad, cysylltwch â thîm Cwtsh Creadigol: cwtshcreadigol@celf.cymru
- DIWEDD -
Nodiadau i’r golygydd: Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus swyddogol y wlad ar gyfer ariannu a datblygu'r celfyddydau. Bob dydd, mae pobl ledled Cymru yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Rydym yn helpu i gefnogi a thyfu'r gweithgarwch hwn. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio'r arian cyhoeddus sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu'r arian a dderbyniwn fel achos da gan y Loteri Genedlaethol. Drwy reoli a buddsoddi'r arian hwn mewn gweithgarwch creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau yn cyfrannu at wella ansawdd bywyd pobl Cymru ac at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.