Bydd Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2024 yn cael ei ffrydio o Galeri, Caernarfon yma ar AM! Ymunwch â ni ar Orffennaf 4ydd am noson wefreiddiol i ddathlu llwyddiannau llenorion talentog Cymreig.

Mi fydd y digrifwr a’r cyflwynydd Tudur Owen yn arwain y noson gan ddatgelu pwy fydd dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, yn ogystal â phwy fydd yn cipio gwobrau Barn y Bobl a theitl Llyfr y Flwyddyn 2024.

Gwobrau llenyddol cenedlaethol yw Llyfr y Flwyddyn sy’n dathlu llwyddiannau llenorion Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae deuddeg gwobr i gyd, gyda chyfanswm o£14,000 o wobrau ar gael i’r awduron llwyddiannus.

 

Bydd y ffrwd ar gael i'w wylio yma o 7yh ymlaen.