Sean Edwards (ganed 1980) fydd yn cynrychioli Cymru yn Fenis 2019 gydag arddangosfa unigol, Undo Things Done, a gyflwynir gan y curadur gwadd Marie Anne McQuay a’r sefydliad arweiniol, Tŷ Pawb. Mae wedi’i chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a dyma’r nawfed cyflwyniad yno gan Gymru. Bydd yr arddangosfa rad ac am ddim yn Santa Maria Ausiliatrice, Castello, 11 Mai-24 Tachwedd 2019.

Meddai Sean Edwards: "Mae'n fraint imi gynrychioli Cymru ym Miennale Fenis. Dwi’n ddiolchgar am gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Pawb, Marie-Anne McQuay, Louise Hobson y curadur cynorthwyol a’r holl artistiaid a’r technegwyr sy’n rhan o'r tîm. Yn yr arddangosfa a'r cyhoeddiad, mae sawl un wedi cyfrannu eu llais, eu haelioni a’u cymorth. Byddaf i’n diolch i bawb yn y cyflwyniad terfynol."

Arddangosfa Sean Edwards

Dyma gyflwyniad mawr cyntaf gan yr artist yn y fath fiennale. Mae ei ymchwiliad barddonol i le, gwleidyddiaeth a dosbarth gyda hanes personol wedi’i wau i mewn. Dyma ei arddangosfa fwyaf uchelgeisiol ac emosiynol hyd yma.

Bydd Sean Edwards yn defnyddio'r amgylchoedd addurnedig yr eglwys a'r gyn-gwfaint i gyflwyno cyfres o weithiau cysylltiedig - cerfluniau, ffilm, printiau a chwiltiau. Tarddiad y gweithiau yw profiad yr artist o dyfu ar stad tai cyngor yng Nghaerdydd yn y 1980au. Yn y corff newydd yma o waith, mae’n ymddiddori mewn troi’r diffyg disgwyliadau yma’n iaith weledol gyffredin. Dyma ffordd o fyw sy’n hysbys i lawer - cadw’r blaidd rhag y drws a chael deupen llinyn ynghyd.

Mae’r artist yn enwog am ei ddull cerfluniol o bortreadu pethau bob dydd. Yn aml mae’n dechrau gyda phethau digyswllt ond sy’n gysylltiedig yn ei hanes personol a’i ddiwylliant. Gallai'r rhain gynnwys: canolfan siopa’r 1970au (Maelfa) ger ei gartref yn Llanedeyrn, grŵp cwiltio yng Nghymru, albwm Nebraska gan Bruce Springsteen, snwcer, papurau newydd poblogaidd, clipiau o gerddoriaeth a phethau sy’n troi i fyny. Drwy edrych hefyd mewn archifau a llyfrgelloedd, mae'r artist yn cyfuno straeon, lluniau, clipiau a dyfyniadau. Mae'n didoli’r pethau yma yn ei stiwdio ac yn eu hynysu a thynnu elfennau ohonyn nhw. Felly mae eu posibiliadau ffurfiol a gwleidyddol yn dod i’r amlwg.

Refrain

Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith sain sy’n cael ei amseru. Refrain yw comisiwn radio newydd mewn partneriaeth â National Theatre Wales. Bydd darllediad byw gan fam yr artist yn cael ei drosglwyddo i Fenis o’i thŷ cyngor yng Nghaerdydd. Mae'r sgript yn cynnwys profiadau personol a phethau sydd wedi troi i fyny. Mae ei llais yn oedrannus gydag acen Gogledd Iwerddon. Weithiau mae’n cloffi dros ei geiriau a’u hailadrodd am nad yw hi wedi arfer â siarad yn gyhoeddus. Gyda’i chaniatâd caredig, mae ei llais yn rhan o’r gwaith a bydd yn newid awyrgylch yr arddangosfa, weithiau i’w glywed, weithiau’n fud.

Tra yng Nghymru

Yn y Biennale, yn Nhachwedd 2019, bydd National Theatre Wales yn cyflwyno fersiwn o Refrain yn Nhŷ Pawb, Wrecsam. Bydd yr arddangosfa lawn wedyn yn mynd ar daith dros Brydain. Bydd yn Nhŷ Pawb yng ngwanwyn 2020 cyn symud ymlaen i Bluecoat, Lerpwl yng ngaeaf 2020. Y Gronfa Gelf a'r elusen 'Colwinston Charitable Trust' sy'n talu am hyn.

Bydd tîm 18 o artistiaid, addysgwyr, curaduron a myfyrwyr yn cefnogi tîm Cymru yn Fenis. Bydd rhaglen y Goruchwylwyr Arbennig yn gyfle i bobl gael profiad ymarferol o weithio yn Fenis, rhwydweithio gyda gweithwyr rhyngwladol a dilyn rhaglen o ddatblygiad personol.

Cysylltiadau ar gyfer y wasg

Am gwestiynau ynglŷn â Chymru yn Fenis 2019, cysylltwch â:

Fiona Russell

PR Sutton

Fiona@suttonpr.com

+44 (0) 2071833577

 

Sutton PR

Fiona@suttonpr.com

+44 (0) 2071833577

Sean Edwards

Hyfforddwyd Sean Edwards (ganed 1980 yng Nghaerdydd lle mae’n byw) yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, BA (Anrhydedd), 2000-3 ac yn Ysgol Gelf Gain y Slade, MA, 2005. Mae’n gweithio gyda gwrthrychau, ffilm, fideo, ffotograffau, llyfrau a pherfformiad ond mae’n fwyaf adnabyddus am archwilio posibiliadau cerfluniol pethau pob dydd. Yn aml defnyddia olion ei weithgareddau blaenorol yn sbardun a chyd-bletha ei ymholiadau bywgraffyddol a barddonol â hanesion cymdeithasol a diwylliannol ehangach. Bu ei fan cychwyn yn amrywio o ganolfan siopa Maelfa o’r 1970au ger Llanedeyrn, Caerdydd lle cafodd ei fagu i grŵp cwiltio yng Nghymru, i Bruce Springsteen, i fyrddau snwcer a phethau a ddarganfyddir i destunau a deunyddiau eraill. Yn 2014 cafodd y fedal aur am gelfyddyd gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae ei waith mewn nifer o gasgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Casgliad Cyngor  y Celfyddydau (yn Lloegr). Cynrychiolir yr artist gan Oriel Tanya Leighton, Berlin.

Marie-Anne McQuay

Hi yw’r curadur gwadd rhyngwladol i’r arddangosfa. Ers Tachwedd 2014 mae’n Bennaeth Rhaglen yn Bluecoat, Lerpwl (y ganolfan hynaf ym Mhrydain sy’n arddangos y celfyddydau cyfoes). Cyn hynny (2007-13) roedd yn guradur yn Spike Island. Gweithiodd gyntaf gyda Sean Edwards yn 2011 ar yr arddangosfa 'Maelfa', Spike Island, Bryste.