Efallai’ch bod yn siaradwr rhugl, neu’n dysgu Cymraeg, yn hen fel pechod neu’n cyfrif eich hun yn lefnyn ifanc. O pa gefndir bynnag y dewch, rydym ni angen eich barn am farchnata’r celfyddydau.
Meddai Sian Tomos, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae Cyngor y Celfyddydau wedi ymrwymo i ddatblygu a hyrwyddo'r celfyddydau yn y Gymraeg. Rydym yn credu bod gan bawb yr hawl i fwynhau diwylliant chreadigrwydd yn eu dewis iaith, boed nhw’n ddefnyddiwr, yn gyfranogwr neu’n artistiaid. Ac er mwyn gwneud hyn, mae marchnata’r celfyddydau drwy’r Gymraeg yn hanfodol.”
Mae’r Cyngor wedi llunio holiadur ar-lein ar gyfer pobl dros 16 mlwydd oed er mwyn casglu barn am ddulliau marchnata ac er mwyn gwella marchnata’r celfyddydau yn Gymraeg. Bydd y dystiolaeth yn cyfrannu ar adroddiad gan Gyngor Celfyddyau Cymru.
Mae’r holiadur Marchnata i Gynulleidfaoedd Cymraeg i’w gael yma.
Dyddiad cau yr holiadur yw Awst 14.
Bydd hefyd gyfres o grwpiau trafod yn cael eu cynnal ar y pwnc ym mis Gorffennaf. Er mwyn cofrestru diddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch ebost at: ymchwilccc@gmail.com