Mae Ballet Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyflwyno:

Romeo a Juliet: Perfformiadau Awyr Agored Unigryw

Bydd y cwmni ballet proffesiynol o Gasnewydd, Ballet Cymru, yn perfformio’r cynhyrchiad arobryn hwn yn nwy o erddi prydferth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr haf hwn!

 

Tŷ a Gerddi Tredegar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Casnewydd

20, 21, 22 Awst 2024, 6.30pm

Gerddi Dyffryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Bro Morgannwg

28, 29, 30 Awst 2024, 6.30pm

 

Dyma Ballet Cymru, cwmni arobryn y Critics' Circle, yn cyflwyno addasid rhyfeddol o gampwaith Shakespeare, Romeo a Juliet, wedi'i berfformio i sgôr ddramatig enwog Prokefiev.

Mae brwydro dwys, deuawdau angerddol a themâu oesol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol, gan greu byd o berygl a chyffro lle mae dau gariad ifanc yn cael eu dal mewn ffrae hynafol.

Mae 'Romeo a Juliet' yn cynnwys coreograffi gan Gyfarwyddwyr y cwmni, Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.

Enillydd y Cynhyrchiad Dawns Gorau ar Raddfa Fawr yng Ngwobrau Theatr Cymru.

Dewch â theulu a ffrindiau, a mwynhewch bicnic ar y lawnt!

I archebu tocynnau, neu ewch i: www.newportlive.ticketsolve.com

Ffôn: 01633 656757

Derbynnir archebion hefyd wrth i chi gyrraedd ar ddiwrnod y perfformiad.

Cyd-gynhyrchiad rhwng Ballet Cymru a Theatr Glan yr Afon

(c) Sian Trenberth