Yr ail berfformiad yng nghyfres The Shape of Things to come Volcano yw "Rituals of the Molikilikili" gan Eric Ngalle Charles. Mae'r ddrama fer newydd sbon hon yn ymwneud â phŵer adrodd straeon i oresgyn trawma. Mae’n gwau rhwng ieithoedd, chwedlau gwerin, a thraddodiadau llafar Bantw.

Mae ERIC NGALLE CHARLES yn awdur, yn fardd, yn ddramodydd ac yn actifydd hawliau dynol o Gameroon sydd wedi’i leoli yng Nghymru. A hwnnw’n ymchwilydd PhD yn King’s College yn Llundain, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Cymru Greadigol iddo yn 2017 ar gyfer ei waith yng nghyswllt ymfudo, trawma, a chof. Cyhoeddodd Parthian Books ei hunangofiant I, Eric Ngalle: One Man’s Journey Crossing Continents from Africa to Europe (2019). Mae’n adrodd hanes ei daith i Ewrop, gan dreulio nifer o flynyddoedd yn ceisio lloches yn Rwsia a mannau eraill. Fe’i dewiswyd gan Jackie Kay fel un o lenorion BAME gorau Prydain, a chanddo lais theatrig unigryw. Mae’n aelod o fyrddau yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, ac roedd wedi golygu Hiraeth Erzolirzoli: A Wales-Cameroon Anthology (2018). Blodeugerdd yw The 3 Molas (2020) ynghylch Cameroon a Chymru. Cyhoeddwyd ei gasgliad o farddoniaeth o’r enw Homelands (Seren Books 2022) ym mis Ebrill.

Mae'r sioe yn agor gyda matinee dydd Iau ac yn parhau tan ddydd Sadwrn.