Fe barhaodd gyrfa lachar Richard Burton am ddegawdau gan ysbrydoli cenedlaethau a chyrraedd cynulleidfa fyd-eang.
Ac eto mae'r dyn a ysbrydolodd Richard ac a roddodd yr hyfforddiant a'r cyfleoedd iddo ganfod llwyddiant, yn haeddu ei gydnabod a'i ddathlu yn ei rinwedd ei hun.
Yn ystod Canmlwyddiant Richard Burton, rydym hefyd yn falch i roi sylw i fywyd ac etifeddiaeth ei fentor a'i dad mabwysiedig, Philip Burton.
Bydd Philip a Richard Burton ill dau yn cael eu hanrhydeddu gyda Phlac Glas yn ystod Wythnos y Canmlwyddiant (darllenwch y stori lawn yma), ac wrth i blac Philip Burton gael ei ddadorchuddio, byddem yn hoffi cael bardd ifanc i ddarllen cerdd wreiddiol yn dathlu eu bywydau.
Dysgwch ragor ar wefan Llenyddiaeth Cymru: https://www.llenyddiaethcymru.org/for-writers/cyfleoedd/
Canllawiau Cyflwyno a Defnydd:
I gyflwyno eich cerdd, e-bostiwch DramaticHeartofWales@rethinkprm.com gyda 'Cherdd Canmlwyddiant' yn y llinell destun. Os gwelwch yn dda, cynnwyswch ddisgrifiad o'r gerdd a fyddwch yn ei hysgrifennu, a naill ai rhannwch enghreifftiau blaenorol o waith neu ysgrifennwch un pennill o'ch cerdd i ddangos enghraifft o'ch steil.
Rhaid i feirdd sy'n cyflwyno eu gwaith fod ar gael ar ddydd Llun, 10fed Tachwedd, i ddarllen eu cerdd yn y seremoni dadorchuddio'r Plac Glas. Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 16 a 25 oed.
Dyddiad cau: 10fed Hydref. Bydd y comisiwn buddugol yn cael ei ddewis erbyn 24ain Hydref.
Ffi: £500.00
Defnydd Pellach a Thelerau ac Amodau: Mae'r prosiect hwn wedi cael ei gyllido gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru. Ar ôl ei gwblhau, bydd hawlfraint y gwaith gaiff ei gomisiynu drwy'r alwad hon yn eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ond bydd cytundeb yn cael ei drefnu rhwng y bardd a ChBCNPT i hwyluso trafodaeth ynghylch sut y gall y gerdd hon barhau i gael ei defnyddio gan y bardd yn y dyfodol. Gall y gerdd gael ei defnyddio mewn deunydd marchnata i hyrwyddo Canmlwyddiant Richard Burton a gallai hyn gynnwys postiadau cyfryngau cymdeithasol, fideograffiaeth a ffotograffiaeth.