Ymunwch â ni yn ‘Rhwydwaith Dyslecsia a’r Celfyddydau yng Nghymru’ ar y 10fed o Orffennaf. 2-4pm (amser GMT)
Yn y sesiwn hon, byddwn yn croesawu dau berson ysbrydoledig o ochr arall i'r Iwerydd, yn fyw o'r Unol Daleithiau America, Dean Bragonier a Sally Taylor.
Bydd Dean Bragonier yn rhannu ei brofiad a'i ymroddiad i helpu myfyrwyr â dyslecsia i ffynnu drwy adnabod eu cryfderau unigryw a meithrin hunan-barch drwy ei brosiect NoticeAbility ac yn arloesi yn y maes hwn yn fyd-eang.
A bydd yr artist Sally Taylor yn trafod Consenses - y pŵer i gynnig iaith amgen (iaith celf) i bobl gyda dyslecsia, i gyfathrebu eu safbwyntiau ac i wrando ar wahaniaethau eraill, i fagu empathi, trugaredd, a gwerthfawrogi safbwyntiau o bob math. Mae hi'n wraig i Dean Bragonier a hefyd yn ferch i ddau o arwyr y byd roc - James Taylor a Carly Simon. Gwelwch ei chysylltiad ysbrydoledig, dealltwriaeth, a'i hedd o ddefnyddio celf fel lens ac iaith yn y linc yma o flaen llaw ar gyfer cefndir.
Mae'r Rhwydwaith hwn yn gyfle i gydnabod ac adnabod sefyllfa dyslecsia yn y Gymru sydd ohoni a chydnabod gwerth y celfyddydau a'i rym i godi ymwybyddiaeth yn y maes.
Ei fwriad yw ymgysylltu unrhyw un sydd gyda diddordeb yn y maes o unigolion a sefydliadau celfyddydol ac arbenigwyr dyslecsia sydd yn croesi i'r maes niwroamrywiaeth er mwyn clywed lleisiau amrywiol. Gall ysbrydoli cyfleoedd i gydweithio a chynnig cymorth perthnasol gan annog rhannu adnoddau ac arbenigedd ar draws sawl sector.
Bachwch ar y cyfle i fwrw golwg ar y cwricwlwm ar gyfer Consenses yn ogystal â NoticeAbility o flaen llaw ar gyfer cefndir.
Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r Rhwydwaith Dyslecsia a’r Celfyddydau yng Nghymru.