Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024
Gweminar 12-1pm; Sesiwn Holi ac Ateb 1-1.30pm
Rhan o'n rhaglen beilot dair blynedd, Theatrau Gwydn: Cymunedau Gwydn, bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg o wahanol ffyrdd y gall unigolion roi i theatrau.
Byddwn yn clywed gan yr ymgynghorydd codi arian, David Burgess, sydd ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant pwrpasol i garfan fach o Theatrau mewn Perygl, fel rhan o Theatrau Gwydn: Cymunedau Gwydn. Bydd David yn rhannu ei brif gynghorion ar gyfer cynyddu rhoddion gan unigolion gan gynnwys sut i adnabod eich cynulleidfa a'r hyn sy'n eu hysgogi, pan fydd cynlluniau aelodaeth yn gweithio'n dda a phan nad ydynt, ac awgrymiadau ar gyfer gwneud cais dyngarol cymhellol.
Yn ymuno â ni hefyd bydd Thea Partridge o Ethical Good a fydd yn rhoi trosolwg o gyllido torfol. Bydd Thea yn siarad am y gwahanol ffyrdd y gall theatrau gynnal gweithgareddau cyllido torfol, ei fanteision, sut i sefydlu ymgyrch cyllido torfol a'r hyn sydd ei angen arnoch i wneud eich ymgyrch yn llwyddiant.
Yn olaf, byddwn yn clywed gan Sarah Ruff o Rose Theatre yn Kingston upon Thames am ei strategaeth newydd i ailgynnau rhoddion gan unigolion. Fel un o'r theatrau cynhyrchu anfasnachol annibynnol mwyaf yn Llundain, mae Rose Theatre yn denu dros 150,000 o bobl bob blwyddyn. Fel theatr annibynnol sy'n derbyn llai na 5% o’i hincwm o ffynonellau statudol, mae tyfu rhoddion gan unigolion wedi dod yn rhan frys a hanfodol o strategaeth y sefydliad a bydd Sarah yn siarad am hyn yn fanylach.
Gan ddefnyddio astudiaethau achos ac awgrymiadau ymarferol, nod y weminar hon yw tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y gall theatrau fynd at neu wella eu hymagwedd at roddion gan unigolion. Bydd yn darparu trosolwg rhagarweiniol o roddion gan unigolion a bydd yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol theatr ar bob lefel a chyda graddau amrywiol o wybodaeth neu brofiad o godi arian.