Rydym yn chwilio am berson gweithgar a brwdfrydig i drefnu rhaglen greadigol flynyddol Theatr Derek Williams. Mae gofyn bod yn drefnus, gallu rheoli cyllideb a medru rheoli sawl prosiect ar unwaith.

· Cyflog: £32,000 pro rata ar gyflogres y Theatr

· Oriau: 1.5 diwrnod yr wythnos (10.5 awr yr wythnos) gyda chytundeb oriau blynyddol a threfniant TOIL yn ei lle

· Bydd peth gwaith penwythnosau ac oriau anghymdeithasol

· Lleoliad: Swyddfa yng Nghanolfan Henblas, Y Bala a’r dewis i weithio gartref

· Cyfnod prawf: 3 mis

I dderbyn swydd ddisgrifiad fanwl, ebostiwch theatrderekwilliams@gmail.com
 

Dyddiad cau: 10/11/2025