Ar ôl darganfod bod ganddi gyflwr dirywiol ar ei llygaid, mae Bridie Doyle-Roberts yn camu i fyd ansicr lle mae dallineb yn dynesu.
Fel perfformiwr ac artist, defnyddiodd Bridie ei phrofiad i greu gosodiad celf theatrig ymgollol, Sbectrwm o’r Golwg, i archwilio sut yr ydym yn gweld, beth yr ydym yn ei weld a sut deimlad yw yr adeg pan fydd y byd gweledol yn mynd ar goll yn y tywyllwch.
Treialodd Bridie’r gosodiad celf ymgollol hwn y llynedd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd, a diolch i gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’n datblygu’r gwaith ymhellach i’w arddangos yn Parc Arts, Trefforest, Pontypridd rhwng 6 a 15 Mawrth 2025.
Mae Sbectrwm o’r Golwg yn archwilio colli golwg gan ddefnyddio dodrefn, barddoniaeth a seinweddau. Trwy ddefnyddio ei thaith bersonol hi wrth golli ei golwg mae Bridie yn creu ymdeimlad o berygl ac ansicrwydd os na allwch ymddiried yn yr hyn y mae eich llygaid yn ei ddweud wrthych. Mae eitemau domestig fel cadeiriau a lampau, sy’n amrywio o ran y peryglon y maent yn eu creu, a seinwedd driphlyg o farddoniaeth ddwyieithog, synau naturiol a chyfansoddiad cerddorol (y gellir eu clywed trwy setiau pen) yn creu profiad personol ac ymgollol lle gall y gynulleidfa archwilio’r gweithiau celf trwy eu teimlo.
Crëwyd Sbectrwm o’r Golwg gyda hygyrchedd creadigol yn ganolog iddo, sy’n golygu bod atebion creadigol wedi cael eu hymwreiddio yn y gwaith celf neu ar gael ar y wefan fel bod y cynnwys yn hygyrch i gynulleidfaoedd â nam ar eu golwg, Byddar, trwm eu clyw a niwrowahanol. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys sain sy’n rhan ohonynt, elfennau â sain-ddisgrifio, Braille, elfennau cyffyrddadwy, geiriau ysgrifenedig, fideo a fersiynau gyda dehongliad BSL o’r seinweddau.
Bydd amseroedd penodol pan fydd tywysydd sy’n gweld neu gyfieithydd BSL ar gael i gyfathrebu â’r cynulleidfaoedd.
Dywedodd Bridie Doyle-Roberts, “Mae colli fy ngolwg wedi bod yn broses o alar a cholled, derbyn, darganfod ac argyfwng hunaniaeth. Mae fy ngwaith yn ystyried sut y mae person â nam difrifol ar ei olwg yn rhyngweithio â’r byd, faint yr ydym yn dibynnu ar ein gallu i gyffwrdd, synau, golau a chyferbyniad ac a ydym yn gwybod beth sydd tu hwnt i flaenau ein bysedd neu a yw pethau yr hyn y maent yn ymddangos neu beidio. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn teimlo ymdeimlad gwerthfawrogol o ran sut brofiad yw hyn i bobl fel fi a deall bod golwg yn sbectrwm ac nad yw’n rhywbeth sydd naill ai ymlaen neu wedi diffodd.”
Bydd seinweddau triphlyg yn cyd-fynd â’r gweithiau celf (ar setiau pen disgo tawel); barddoniaeth ar lafar gan Bridie yn Gymraeg a Saesneg, seinwedd elfennol glaw yn tasgu oddi ar wrthrychau a seinwedd ddramatig trenau yn cyrraedd twneli gyda soddgrwth ac effeithiau sain anesmwyth wedi eu creu gan y Cyfansoddwr Simon McCorry.
Bydd Sbectrwm o’r Golwg ar agor i’r cyhoedd rhwng 6 a 8 a 13-15 Mawrth, (Dydd Iau a Sadwrn 10am-2pm dydd Gwener 6pm-9pm) yn Parc Arts, Trefforest. Mae’r arddangosfa am ddim, gellir archebu lle ymlaen llaw ar Eventbrite trwy wefan Bridie Doyle-Roberts.
Bydd sesiynau penodol a gefnogir gan disgrifiad Sain a BSL, a cwrdd efo’r Artist a gweithdai ar gael ar ddiwrnodau penodol. Ewch i'r wefan neu cysylltwch 07852 157033 am ragor o wybodaeth.