Mae Theatr Byd Bach yn hynod falch i fod yn Ganolfan Agored Achrededig unwaith yn rhagor diolch i PLANED a’i gynllun Prosiect Cadarnhad anhygoel.
Yn dilyn datganiad PLANED fod Theatr Byd Bach am ddod yn sefydliad partner cyntaf iddo yng Ngheredigion, mae cynlluniau ar y gweill i ailsefydlu’r corff dyfarnu a gweithio gyda chyfranogwyr prosiect tuag at addysg bellach a chydnabod cyraeddiadau unigolion.
“Ein cynllun yw cyflwyno achrediad Agored yn ystod y tymor newydd er mwyn annog dysgu, adnabod y sgiliau mae ein cyfranogwyr wedi’u datblygu ac i adeiladu ar eu hunan-barch,” medd rheolwr y prosiect, Deri Morgan. “Byddwn yn cychwyn gweithio drwy ein prosiect Amethyst gyda phobl ifanc sy’n profi heriau ac sy’n ymdopi gyda’u hiechyd meddwl.”
Ychwanegodd y cyfarwyddwr Ann Shrosbree, “Unwaith yn rhagor, bydd Agored yn rhan ganolog o’r gwaith yr ydym ni’n ei wneud i gefnogi pobl ifanc ac oedolion. Rydym ni’n falch iawn i fod yn bartneriaid newydd gyda Phrosiect Cadarnhad ac rydym ni’n diolch iddyn nhw am alluogi’r bennod newydd hon i ddigwydd.”.
Mae Prosiect Cadarnhad yn brosiect a noddwyd gan y Loteri Genedlaethol sy’n cynnig achrediad Agored Cymru i bobl yn ne-orllewin Cymru. Mae’r ddau sefydliad yn edrych ymlaen at nifer o flynyddoedd cynhyrfus o gydweithio er mwyn hyrwyddo lles ar draws cymunedau.