Mae’r sesiynau isod yn cael eu cynnal yng Nghonwy diolch i Gywaith Dawns, Cyngor Sirol Conwy, Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales, Rubicon Dance a Rhaglen Hyfforddiant Cymru Gyfan.

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 1.00-2.30 yn Eglwys St Michael & All Angels, Llandudno Junction - Sesiwn Ddawns Iaith Gymraeg (sesiwn i chi!) wedi’i harwain gan ymarferydd dawns llawrydd Sarah Mumford. Mae’r digwyddiad AM DDIM ond mae lleoedd yn gyfyngedig felly mae archebu eich lle yn hanfodol.

Mae hon yn sesiwn ddawns ymarferol wedi’i hanelu at bobl sy’n rhugl yn y Gymraeg neu sy’n dysgu’r Gymraeg.

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 12.00 -1.00 yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy - Bydd Rhaglen Hyfforddiant Cymru Gyfan a Chywaith Dawns yn cynnal cyfarfod rhwydwaith – digwyddiad AM DDIM – mae croeso mawr i raddedigion diweddar!

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 1.00-4.30 yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy Sesiwn DPP sy’n canolbwyntio ar wneud sesiynau/gwaith yn fwy hygyrch i bobl sydd â nam ar y golwg ac yn edrych at ffyrdd creadigol o ddefnyddio Disgrifiad Sain mewn dawns wedi’i harwain gan Karina Jones a Dr Kate Lawrence. Cost y sesiwn hon yw £30 ac mae gennym ni 9 lle AM DDIM ar gyfer gweithwyr llawrydd - 5 wedi’u cefnogi trwy Gywaith Dawns a 4 trwy Raglen Hyfforddiant Cymru Gyfan. Cynigir y rhain ar sail y cyntaf i’r felin.

Am wybodaeth bellach am unrhyw rai o’r digwyddiadau uchod anfonwch e-bost at tracey@rubicondance.co.uk