Er 1997 rydym wedi dosbarthu dros £130 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i brosiectau cyfalaf ledled Cymru. Nid oes amheuaeth bod yr arian hwn wedi trawsnewid seilwaith celfyddydau Cymru, gan fod o fudd i weithwyr proffesiynol creadigol, sefydliadau celfyddydol a'r rhai sy'n mynychu ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau fel ei gilydd.

Ein huchelgais ar gyfer ein Rhaglen Gyfalaf yw parhau i sicrhau bod y celfyddydau yng Nghymru yn gweld manteision mawr o fuddsoddiadau cyfalaf. Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau bod gan sefydliadau celfyddydol yng Nghymru adeiladau a chyfarpar sy'n addas at y diben sy'n eu galluogi i gyflawni eu potensial a'u gwneud yn fwy gwydn. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth benodol i sefydliadau sy'n derbyn arian aml-flwyddyn gennym.

Nid oes dyddiad cau ymgeisio ond rhaid cysylltwch â'r tîm cyfalaf yn gyntaf gyda disgrifiad o'ch prosiect i drafod sut y bydd yn cyflawni ein blaenoriaethau a thrafod pryd i gyflwyno eich cais

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.