Ar 17 Chwefror 2021, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru'n agor ceisiadau ar gyfer ail gylch y gronfa Cysylltu a Ffynnu – sef cronfa £5m o arian y Loteri Genedlaethol â'r nod o hyrwyddo prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau, unigolion a gweithwyr creadigol proffesiynol.
Math newydd o gronfa yw Cysylltu a Ffynnu sy'n annog ymgeiswyr am gyllid y Loteri i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o greu gwaith a chysylltu â chynulleidfaoedd er gwaethaf sialensiau Covid. Ffocws penodol y rhaglen yw creu rhagor o gyfleoedd i’r lleisiau hynny nad ydynt yn cael eu clywed fel y gallant helpu i wneud y celfyddydau yng Nghymru'n decach ac yn fwy cynrychiadol ac agored i bawb. Mae'r rhaglen yn cynnig grantiau gwerth rhwng £500 a £150,000 i brosiectau â phwyslais cadarn ar gydweithio rhwng artistiaid unigol, grwpiau nad ydynt yn grwpiau celfyddydol, a sefydliadau'r celfyddydau. Nod y gronfa yw denu syniadau newydd a fydd yn cynorthwyo artistiaid i oresgyn sialensiau'r pandemig, ac ategu sector celfyddydol cadarn a gwydn sy'n rhoi adlewyrchiad teg o bobl a chymunedau ein gwlad. Dosbarthwyd £2.3m yn ystod y cylch cyntaf a bwriad yr ail gylch yw rhannu £2.7m pellach.
Mae nodiadau canllaw ar gyfer y gronfa i'w gweld ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru yma. Mae Cyngor y Celfyddydau'n cyflwyno gwelliannau i'w broses ymgeisio hefyd er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn fwy hwylus i'r defnyddwyr. Bydd gofyn i'r ymgeiswyr gofrestru i gael cod a fydd yn eu galluogi i fynd i’r porth rheoli grantiau newydd - sydd ar hyn o bryd yng nghyfnod BETA ei ddatblygiad.
Bydd y dull newydd yma o weithredu'n galluogi Cyngor y Celfyddydau i gofnodi ceisiadau'n effeithlon, yna helpu gyda’r wybodaeth angenrheidiol wrth wneud penderfyniadau am grantiau a bydd yn helpu i ddosbarthu cyllid hanfodol yn gyflym. I gofrestru er mwyn defnyddio porth grantiau Cyngor y Celfyddydau a gwneud cais am arian Cysylltu a Ffynnu, ewch i https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/sefydliadau/cysylltu-ffynnu.
Dylid nodi y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i'r cod cofrestru gyrraedd, felly gofynnir i ddarpar- ymgeiswyr ganiatáu amser ar gyfer hyn wrth gynllunio. Os gewch chi unrhyw drafferthion gyda chofrestru neu'r broses ymgeisio yna e-bostiwch grantiau@celf.cymru os gwelwch yn dda er mwyn holi am gymorth.
I gyd-fynd ag ail gylch y gronfa Cysylltu a Ffynnu, mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n cynnal cyfres o sesiynau briffio rhithiol gyda'i gyd-noddwyr, Tŷ Pawb yn Wrecsam a'r Neuadd Les, Ystradgynlais. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn trwy glicio yma.
Gweler hefyd fanylion sesiynau galw heibio a dwy sgwrs ar-lein sydd i'w cynnal ar "Sut a pam y dylech chi sefydlu Cytundebau Cydweithio".
Y dyddiad cau ar gyfer cylch cyfredol y gronfa Cysylltu a Ffynnu yw 17 Mawrth 2021.
Gweler isod gyflwyniad fideo byr, gydag is-deitlau, sy'n rhoi trosolwg i chi o'r ffordd y mae'r porth yn gweithio: