Mae Requiem yn broses ymchwil a datblygu gyda Chôr Un Byd Oasis sy’n cynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid ac artistiaid proffesiynol.
Mae’r cwmni yma yn cydweithio i greu tirwedd lle mae deuoliaeth bywyd a marwolaeth yn cael ei archwilio trwy gerddoriaeth a dawns.
Gan fabwysiadu ymagwedd ddad-drefedigaethol at y term Gatholig a gydnabyddir yn draddodiadol, ‘requiem’ – sy’n golygu cyfansoddiad cerddorol i’r meirw, rydym wedi archwilio syniadau a llwybrau amrywiol sy’n amlygu ein safbwyntiau diwylliannol, traddodiadau a phrofiadau gwahanol ynghylch sut mae marwolaeth yn cael ei ddiffinio trwy fywyd.
Ac wrth wneud hynny, cysylltu ieithoedd ac ystyron lluosog at ei gilydd i greu ein requiem.
Mae'r broses wedi canolbwyntio'n fwriadol ar ddathlu dod at ein gilydd a mwyhau lleisiau'r byw i anrhydeddu lleisiau'r meirw.
Yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu o’r broses hon yw pwysigrwydd ein llawenydd a’n bywoliaeth yng nghanol rhyfeloedd a hil-laddiad, a bod dathlu bywyd yn cydblethu’n sylweddol gydag anrhydeddu’r meirw.
Yn ystod y cyfnod digynsail hwn mae wedi bod yn arbennig o bwysig i’r grŵp godi a grymuso ei gilydd tra, ar yr un pryd, bod yn ymwybodol o’r dirwedd wleidyddol fyd-eang.
Mae Requiem felly yn daith o unigolion yn uno mewn cydsafiad trwy gerddoriaeth a dawns gan archwilio dathliad a chreadigrwydd tra’n cydnabod marwolaethau llawer.
Mae Oasis yn cydweithio efo’r offerynnwr taro Tsieineaidd traddodiadol o fri rhyngwladol BeiBei Wang.