Mae Papertrail yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd i fod yn rhan o siapio dyfodol y cwmni ym myd y theatr a straeon na chlywir yng Nghymru
Rydym yn tyrchu am straeon na chlywir a’u rhannu gyda chynulleidfa mewn ffyrdd unigryw. Mae pob cynhyrchiad yn plethu ysgrifennu beiddgar gyda llwyfanu anturus, ac yn golygu gweithio law yn llaw â chymunedau wrth greu y gwaith. Mae ein proses yn cael ei yrru gan chwilfrydedd. Rydym yn awyddus i ddod i adnabod pobl mewn lleoliadau penodol a dod o hyd i’r stori sydd angen cael ei chlywed.
Rydym yn awyddus i glywed gan unigolion sydd:
- yn angerddol am y celfyddydau, diwylliant a’r iaith Gymraeg.
- yn ymlynu i gynhwysiant a chydraddoldeb
- gyda phrofiad cyflogaeth proffesiynol
- gyda phrofiad o wirfoddoli
- gyda phrofiad bywyd amrywiol
Profiad Proffesiynol a Gwirfoddoli
Rydym yn awyddus i glywed gan bobl gyda phrofiad proffesiynol a gwirfoddol gyda’r sgiliau canlynol:
- Cyllid
- Adnoddau Dynol a Llywodraethu
- Cyfreithiol
- Codi Arian
Er bod profiad o fewn y celfyddydau a’r sector cyhoeddus ac elusennol yn fuddiol, mae Papertrail yn croesawu unigolion sydd a mewnwelediad amhrisiadwy o gefndiroedd gwahanol hefyd.
Mynd i’r afael ac anghydraddoldeb yn y Celfyddydau
Mae ein gwaith yn ymgysylltu gyda ystod eang o bobl ac rydym eisiau i’n bwrdd adlewyrchu hynny. Ein nod ydy galluogi llais pobl o gymunedau sydd yn cael eu tangynrychioli i gael ei glywed.
Rydym eisiau mynd i’r afael ac anghydraddoldeb strwythyrol ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl sydd yn cael eu tangynrychioli yn y celfyddydau, ac gan unigolion sydd yn cael eu gwahaniaethu yn sgil hil, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedl, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran.
Mae gwybodaeth am rôl ymddiriedolwr, swydd ddisgrifiad a beth i ddisgwyl gan rôl gwirfoddol di-dal ar wefan Papertrail.
I ddarganfod mwy ewch i’r wefan i lawrlwytho’r Pecyn Ymddiriedolwyr neu gysylltu gyda manager@papertrail.org.uk am fwy o wybodaeth am y rôl.
Sut i ymgeisio:
Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymddiriedolwyr.
Os hoffe chi wybod mwy am fod yn ymddiriedolwr Papertrail cysylltwch gyda ein Rheolwr Cyffredinol, Alexandra Lort Phillips:
Os yn penderfynu ymgeisio i fod yn ymddiriedolwr rydym yn gofyn am:
- Lythyr eglurhaol neu Ebost yn egluro pam hoffe chi fod ar y bwrdd.
- Eich CV.
- I lenwi Ffurflen Cyfleon Cyfartal sydd i’w gael ar ein gwefan.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau fidio 2 funud o hyd.
Os ydych yn cael eich cynnwys ar restr fer, byddwn yn eich gwahodd am sgwrs gyda aelod cyfredol o’r bwrdd. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i gyfarfod y tîm yn hwyrach yn y flwyddyn cyn i chi benderfynu os am ymrwymo.