Mae Chapter yn falch o gyhoeddi Reciprocal Gestures: Tymor o symud a dawns, sef rhaglen wedi’i churadu o berfformiadau rhwng mis Medi a mis Rhagfyr. Bydd y rhaglen yn dathlu eiliadau a rennir ac archwiliadau o wrywdod, bod yn cwiar, heneiddio, bywyd wedi gwladychiaeth, agosatrwydd a chymuned, gyda pherfformiadau a digwyddiadau gan Gareth Chambers, Seke Chimutengwende, Emilyn Claid, Lewys Holt, Good News from the Future, Anushiye Yarnell a Groundwork Collective.
Drwy’r tymor, bydd perfformiadau gan rai o’r artistiaid dawns cyfoes mwyaf cyffrous yn cael eu cynnal ochr yn ochr â sgyrsiau, dosbarthiadau agored, nosweithiau gwaith ar waith, dangosiadau, a digwyddiadau arbennig, er mwyn bod rhannu artistig yn ganolog i’r tymor.
Mae rhaglen berfformiadau Chapter yn lle ar gyfer arferion celf fyw arbrofol a rhyngddisgyblaethol, lle caiff artistiaid eu cefnogi i gymryd risgiau a lle gall cynulleidfaoedd ddod o hyd i waith cyffrous, gwreiddiol a hygyrch. Mae ymrwymiad Chapter i berfformiadau arbrofol yn rhan o hanes cyfoethog o gefnogi arferion celf fyw radical, a’i safle unigryw yng Nghaerdydd fel lleoliad celfyddyd aml-gyfrwng sydd â’r capasiti i gefnogi artistiaid i ddatblygu eu harfer a rhannu eu gwaith mewn ffyrdd deinamig.
Mae’r Curadur Perfformiadau Kit Edwards yn rhannu ei syniadau ar y rhaglen newydd gyffrous yma:
“Mae’r ecoleg ddawns yng Nghymru mewn cyfnod arbennig o gyffrous, lle mae artistiaid ar draws disgyblaethau yn dod at ei gilydd ar gyfer cyfnewid creadigol. Mae cymuned gref o artistiaid sy’n gweithio gyda dawns wedi ymgartrefu yn Chapter, ac rydyn ni’n awyddus i ddathlu’r hyn maen nhw wedi’i adeiladu, a dod â hynny i mewn i sgwrs gydag artistiaid dawns rhyngwladol anhygoel sy’n perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf.”