Mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST yn falch iawn o gyhoeddi’r sefydliadau fydd yn cael eu cefnogi gan eu cronfa beilot newydd.

Sefydlwyd Cronfa Cerddoriaeth PYST 2025-26 i gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru drwy gynnig cefnogaeth i gyrff cerddorol nad oedd yn derbyn cefnogaeth ariannol cyn hyn. Bwriad y gronfa yw galluogi mwy o weithgaredd cerddorol, cynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad ar lawr gwlad, a helpu i ddatblygu gwytnwch hirdymor diwydiant cerddoriaeth Cymru. Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan PYST ar ran Cymru Greadigol. Detholwyd y ceisiadau llwyddiannus gan banel annibynnol.

Mae’r prosiectau sydd yn cael eu hariannu yn cynnwys ymgyrchoedd rhyddhau recordiau gan labeli o Gymru, gweithdai cerddorol a chyfres o sesiynau rhwydweithio ar gyfer gwella hygyrchedd i bobl Anabl sydd yn rhan o’r diwydiant.

Dywedodd Gruffydd Owen o Recordiau Libertino: “Mae Cronfa Cerddoriaeth PYST yn flaengar ac yn ymarferol, yn cydnabod y gwaith llawr gwlad hanfodol mae labeli megis Libertino yn gwneud i adeiladu amgylchfydoedd cefnogol, uchelgeisiol ac sydd yn blaenoriaethu artistiaid. I ni, mae’r gefnogaeth yn drawsnewidiol: mae’n ein galluogi, dros y chwe mis nesaf, i ymbweru lleisiau newydd, i fuddsoddi ymhellach yn ein hartistiaid presennol, ac i osod y seilwaith ar gyfer prosiectau sydd yn dathlu ac ehangu gwaddol cerddoriaeth amgen Cymru“.

Ychwanegodd Keys Barber o Amplifying Accessibility: “Mae meithrin cysylltiadau a chymuned yn hanfodol i feithrin gyrfa gynaliadwy yn y sector cerddoriaeth. Gyda Chronfa Gerddoriaeth PYST, byddwn yn gallu creu lle diogel, cefnogol a hygyrch i weithwyr cerddoriaeth anabl ledled Cymru ddatblygu partneriaethau a chymuned ystyrlon, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i barhau i ffynnu o fewn y celfyddydau creadigol.”

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyfyngedig: “Mae’r ymateb bositif a gafwyd i’r gronfa hon, a safon y ceisiadau hynny, yn dysteb i greadigrwydd ac angerdd y labeli a sefydliadau sydd yn asgwrn cefn i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae PYST yn hynod falch o gefnogi’r prosiectau amrywiol a hanfodol yma, ac yn gyffrous i’w gweld yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Llongyfarchiadau i’r ymgeisiwyr llwyddiannus! Mae rhestr llawn o dderbynwyr y gronfa isod.

Ymgeiswyr llwyddiannus Cronfa Cerddoriaeth PYST 2025-26

Amplifying Accessibility: In Tune Cyfres o sesiynau rhwydweithio am ddim ar gyfer gweithwyr anabl yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.


I KA CHING Pum albwm gan bum band/artist ar y label.


Bryn Rock Recordio a hyrwyddo cerddoriaeth newydd gan artistiaid o Ddyffryn Clwyd.


Lwcus T EP Cyn Cwsg


Recordiau Libertino Datblygu artistiaid, isadeiledd, treftadaeth diwylliannol ac arloesedd y label.


Fflach Cymunedol Ail-recordiad o Sefyll ar y Sgwar gan Ail Symudiad, gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru.


Slush Dau weithdy jamio dwy-ieithog yn CWRW, Caerfyrddin wedi’u targedu at bobl ifanc a’u teuluoedd.


TIWN Media Sioe wythnosol yn tynnu sylw at wahanol artistiaid drwy berfformiadau a chyfweliadau


Recordiau Sbensh Datblygu, recordio a hyrwyddo EP y band ifanc Y Ddelwedd


Klep Dim Trep Record newydd Bitw


INOIS 15 cân newydd ar draws 5 o artistiaid y label


Klust Curadu, creu, dosbarthu a hyrwyddo pedwerydd rhifyn o Gylchgrawn Klust.


Bubblewrap Collective Rhyddhau recordiau pedwar o artistiaid y label.


MELANGE Records Prosiect yn cynnwys cyfres o draciau gan yr artist electronig Earl Jeffers.


Future Femme Records Record newydd LOYD.


Recordiau Côsh 10 o draciau gan 10 o artistiaid y label.