Rhan o gyfres o drafodaethau Rhwydwaith Creadigol gan Bywydau Creadigol.
- Dydd Gwener 16 Mehefin 2023
- 9.30 - 10.30
- Ar-lein, trwy Zoom
Mae manteision helaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, gan gynnwys gwelliannau i iechyd a lles; mwy o hyder a gwell hwyliau; cysylltiadau cymdeithasol newydd a datblygu sgiliau. Felly sut gallwn ni annog mwy o bobl i wneud gweithgaredd creadigol yn rhan reolaidd o'u bywydau?
Bydd y sgwrs Rhwydwaith Creadigol hon yn archwilio’r amodau a allai gefnogi pobl i roi cynnig ar weithgaredd artistig newydd, neu ailgynnau diddordeb creadigol, gan gynnwys y gweithgareddau ‘porth’ a allai arwain pobl at oes o greadigrwydd.
Bydd y siaradwr gwadd Marion Cheung, artist amlddisgyblaethol a chyfranogol sy’n gweithio ym maes y celfyddydau mewn iechyd, yn cynnig cythrudd inni ysgogi ein sgwrs.
Croeso i bawb!