Bydd y cwmni theatr plant, Theatr Iolo, yn rhedeg Playhouse Cymru ar gyfer chwe ysgol gynradd leol yn y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd y prosiect yn galluogi plant i berfformio drama, a ysgrifennwyd gan ddramodydd proffesiynol, ar brif lwyfan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-afon.
Mae Playhouse Cymru wedi bod yn rhedeg ers 2018, ond oherwydd costau rhedeg cynyddol, roedd y prosiect mewn perygl o ddod i ben yn 2025/26. Diolch i’r cyllid a ddyfarnwyd gan Postcode Community Trust ac a godwyd gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, bydd 180 o bobl ifanc 8-11 oed bellach yn cymryd rhan yn y prosiect unigryw yma sy’n cysylltu ysgolion â theatrau, dramodwyr a gwneuthurwyr theatr proffesiynol.
“Diolch i holl chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl am yr arian maen nhw wedi’i godi. Bydd y cyllid rydyn ni wedi’i dderbyn gan Postcode Community Trust yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc yn Ne Cymru, gan roi’r profiad iddynt o ddatblygu, ymarfer a pherfformio drama mewn theatr broffesiynol.”
Michelle Perez, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Iolo
“Mae llawer o’n cast yn newydd-ddyfodiaid llwyr i fyd y theatr. Mae’n beth gwych iddyn nhw fod yn rhan o’r prosiect ardderchog yma, profi theatr go iawn a gweld yr holl bethau sy’n digwydd tu ôl i’r llenni!”
Athro o ysgol a gymerodd ran yn Playhouse yn flaenorol
Mae Playhouse Cymru yn rhan o gydweithrediad ehangach yn y DU rhwng Theatr Iolo, Theatre Royal Plymouth a York Theatre Royal. Mae’r sefydliadau hyn yn cydweithio i gomisiynu dramodwyr proffesiynol bob blwyddyn i ysgrifennu dramâu byrion sydd i’w cael eu perfformio gan gast mawr o bobl ifanc.
Gall ysgolion sydd â diddordeb yn cymryd rhan yn Playhouse Cymru 2025/26 e-bostio hello@theatriolo.com am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i gymryd rhan. Mae’r prosiect yn agored i bob ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru sy’n gallu teithio i Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-afon yng Nghasnewydd. Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael detholiad o ddramâu i ddewis ohonynt, yn Gymraeg a Saesneg.