Mae’r pandemig wedi cau canolfannau celfyddydol ond mae llawer o artistiaid a sefydliadau celfyddydol wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio a chefnogi iechyd meddwl a lles pobl.

Heddiw, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru y bydd yn rhoi £450,000 o arian y Loteri Genedlaethol dros y pum mis nesaf i alluogi rhagor o bobl i brofi manteision iechyd a lles drwy gymryd rhan yn y celfyddydau.

I wneud hyn, mae’r Cyngor yn ymestyn ei bartneriaeth bresennol gyda’r Lab (partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta). Bydd y Lab yn rheoli ac yn dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol ar ein rhan i’r Celfyddydau ac Iechyd tan wanwyn 2021.

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Drwy gynnig y celfyddydau ar-lein ac yn lleol, mae artistiaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn gallu cadw eu hegni creadigol.

"Un o fanteision annisgwyl y pandemig oedd rhagor o bobl yn troi at greadigrwydd fel ffordd o fwynhau a chadw cysylltiad. Gobeithio y bydd yr hwb i'r celfyddydau ac iechyd heddiw yn fodd i hyd yn oed ragor o bobl elwa ar y celfyddydau."

Gan weithio gyda’r Lab a Rhwydwaith Celfyddydau Iechyd a Lles Cymru, bydd ymarferwyr yn cael arian a chymorth i ddysgu sut i gynllunio a darparu gweithgareddau sy'n ymateb i anghenion iechyd y pandemig.

Bydd dwy gronfa ar gael yn y rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl i gynnal a datblygu’r gwaith yn yr hir dymor:

  • ymchwil a datblygu (y rhaglen Hadau)
  • grantiau mwy (y rhaglen Meithrin)

Mae’r Cyngor yn cefnogi prosiectau celfyddydol i wella iechyd a lles pobl ers blynyddoedd. Mae arian y Cyngor yn fodd i greu swyddi arbenigol ac ymgorffori cydlynwyr iechyd ym mhob un o 7 bwrdd iechyd Cymru.

Drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn 2017, mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chydffederasiwn GIG Cymru i godi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd y celfyddydau. Rydym ni hefyd yn cefnogi arloesedd yn y maes drwy'r rhaglen Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl dan reolaeth y Lab.

Bydd Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl yn datblygu gweithgarwch o safon ym maes iechyd a lles sy'n ddiogel o ran y coronafeirws ac sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd hefyd yn mynd i'r afael â blaenoriaethau gan gynnwys:

  • cefnogi lles ein gweithlu iechyd a gofal
  • meithrin gwytnwch pobl â phroblemau iechyd ac iechyd meddwl
  • gwella iechyd pobl sydd ar y cyrion, heb gynrychiolaeth ddigonol neu mewn perygl

I gael manylion am ymgeisio i’r cronfeydd, ewch i: Y Lab

neu e-bostiwch artsandhealth@nesta.org.uk i drefnu cael sgwrs.