Heddiw, gwnaeth Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru y datganiad canlynol:

“Mae'n ofid mawr imi orfod  cyhoeddi penderfyniad Siân Tomos i ymddeol o'r Cyngor o ganlyniad i afiechyd. Yn anffodus iawn, ers iddi gael ei phenodi i swydd y Prif Weithredwr ym mis Mehefin, mae Siân wedi dioddef problemau iechyd sydd wedi peri cryn anhawster iddi.  O ganlyniad mae, gwaetha'r modd, wedi dod i'r casgliad anodd na all ymgymryd â rôl heriol y Prif Weithredwr a chyflawni'r gwaith yn y ffordd yr oedd wedi'i ddychmygu yn y dyfodol rhagweladwy. Barn gadarn Siân yw bod staff Cyngor Celfyddydau Cymru a'r sector celfyddydau yng Nghymru yn haeddu arweinydd cryf a bywiog yn y swydd cyn gynted â phosibl i'w harwain drwy'r cyfnod mwyaf heriol hwn. Gyda hyn mewn golwg mae hi wedi penderfynu mai'r peth iawn i'w wneud yw camu o'r neilltu nawr yn hytrach nag ymestyn yr ansicrwydd.

“Yn ei e-bost ataf neithiwr, dywedodd Sian 'Rwy'n parhau i fod yn gefnogwr enfawr o'r Cyngor a'r staff oll. Byddaf yn colli pob un ohonoch yn wirioneddol a medraf ond dymuno'r gorau i chi ar gyfer y cyfnod heriol sydd o'ch blaen'. Roedd Sian i fod i gychwyn ar swydd y Prif Weithredwr ar 6ed Medi yn dilyn ymadawiad Nick Capaldi ddiwedd Awst ar ôl 13 mlynedd wrth y llyw.

“Bydd pob un ohonom yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn colli Sian yn fawr iawn. Mae hi wedi bod yn gydweithiwr eithriadol a gofalgar sydd wedi cael effaith sylweddol ar y celfyddydau yng Nghymru. Gwn ein bod yn dymuno adferiad buan a llwyr iddi gyda'i hiechyd ac edrychaf ymlaen at ei gweld mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

“Bydd y sefyllfa yn cael ei  thrafod yng nghyfarfod arbennig y Cyngor yfory a byddwn yn dechrau'r broses o geisio Prif Weithredwr Newydd”.

DIWEDD                                 7 Medi 2021