• Prif Weinidog Cymru yn ymuno â sylfaenydd Lleisiau Eraill Philip King
  • Rhaglen lawn nawr ar gael drwy Ap Lleisiau Eraill Aberteifi
  • Cyflwynir gan DJ enwog y BBC Huw Stephens
  • Dros 90 o berfformiadau a sgyrsiau ar draws tref Aberteifi
  • Tocynnau’n £50 yn unig – gwerth am arian rhagorol am dridiau o gerddoriaeth, trafodaeth a syniadau

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi heddiw wedi cyhoeddi ychwanegiad arbennig at ei raglen yn 2024.

Bydd y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru, yn ymuno â rhaglen Lleisiau Eraill Aberteifi ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl, dydd Iau 31ain Hydref, am 6pm pan fydd yn cymryd rhan mewn sgwrs Clebran arbennig yn y Mwldan, 'Cymru' n Galw  / Cymru Calling' / Cymru ag Glaoch' gyda sylfaenydd Lleisiau Eraill, Philip King.

Mae’n bleser gan Lleisiau Eraill groesawu Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru, Eluned Morgan AS, mewn sesiwn arbennig a fydd yn myfyrio ar rôl y genedl, ei diwylliant a’i hiaith, wrth iddi eistedd wrth ymyl Iwerddon mewn perthynas newydd o fewn cyd-destun newidiol Ewrop.

Yn 27 oed, dechreuodd gyrfa wleidyddol Eluned pan gafodd ei hethol fel yr aelod ieuengaf o Senedd Ewrop ym 1994. Hi oedd y bumed fenyw i gael ei hethol i swydd wleidyddol llawn amser yn holl hanes Cymru, a’r gwleidydd llawn amser cyntaf yng Nghymru i gael babi tra roedd yn aelod seneddol. Cynrychiolodd Gymru ar ran y Blaid Lafur tan 2009, ac yn ddiweddarach gweithiodd i SSE (SWALEC) a gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gymru a Materion Tramor. Etholwyd Eluned Morgan i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 fel aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a'r Gorllewin. Mae Eluned  wedi dal nifer o swyddi gweinidogol gan gynnwys Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, a Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae Philip King yn ffigwr amryddawn ym myd y celfyddydau. Mae’n adnabyddus fel curadur, cyfarwyddwr ffilmiau, awdur, cerddor, darlledwr a sylwebydd. Enillodd glod am gynhyrchu'r gyfres arloesol 'Bringing It All Back Home' gyda Nuala O'Connor ar gyfer Teledu'r BBC, a enillodd wobr Primetime Emmy ym 1987. Ers hynny, mae wedi parhau i gynhyrchu a chyfarwyddo amrywiol ddigwyddiadau diwylliannol a ffilmiau, gan gynnwys 'Ceiliúradh' yn y Royal Albert Hall, 'Glaoch: A President’s Call,' a 'Notre Dame: A Welcome Home.' Yn fwyaf nodedig, fe gyd-greodd ŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau annwyl Iwerddon, Other Voices, sydd bellach yn ei 23ain blwyddyn.

Bydd y sgwrs yn agored i holl ddeiliaid bandiau arddwrn y Llwybr Cerdd ar sail y cyntaf i'r felin.

Gyda llai na mis i fynd, yn ddiweddar cyhoeddodd yr ŵyl Nadine Shah a Melys fel y perfformwyr olaf i ymuno â lein-yp yr Eglwys ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi, sy’n dathlu ei phumed gŵyl yr hydref hwn. Maen nhw’n ymuno â Charlotte Day Wilson, Fionn Regan, Victor Ray, Bill Ryder-Jones, Fabiana Palladino, a Georgia Ruth ar gyfer perfformiadau agos-atoch a fydd yn cael eu ffrydio’n fyw ledled y byd ar y noson trwy sianel YouTube a llwyfannau cymdeithasol Other Voices, a’u darlledu nes ymlaen ar y teledu ac ar BBC iPlayer a RTÉ Player drwy’r partneriaid cyfryngau BBC Cymru ac RTÉ. Cyflwynir y digwyddiad gan Huw Stephens, DJ enwog y BBC sy'n hen gyfarwydd ag arwain yn Lleisiau Eraill.

Mae amserlen lawn yr ŵyl, sy’n cynnwys dros 100 o berfformiadau byw ledled Aberteifi dros benwythnos yr ŵyl, bellach ar gael i’w gweld ar Ap yr ŵyl ar gyfer iPhone ac Android a lansiwyd yn ddiweddar, sydd ar gael i’w lawrlwytho drwy Apple a Google Play.

PRIF ACTAU EGLWYS Y SANTES FAIR:

Charlotte Day Wilson | Nadine Shah | Victor Ray | Fionn Regan | Bill Ryder-Jones | Fabiana Palladino | Georgia Ruth | Melys 

LEIN-YP Y LLWYBR CERDD:

ADJUA / Big Sleep / Chubby Cat / Cynefin / David Kitt / Don Leisure / DUG / em koko /  Eoghan Ó Ceannabháin / Fears / Filmore! / Gillie / girlfriend. / Lila Zing / Lleuwen / Megan Nic Ruairí / Melin Melyn / M(h)aol / Minas / Morgana / Mohammad Syfkhan / Mr Phormula / New Jackson / Niamh Bury / Niques / OLIVE HATAKE / Otto Aday / PARCS / People & Other Diseases / Phil Kieran / Po Griff / Rona Mac / Sage Todz / Search Results / Skunkadelic / Slate / Tara Bandito / The Family Battenberg / The Fully Automatic Model / The Gentle Good / Tiny Leaves / Virgins

SIARADWYR CLEBRAN:

Billy Mag Fhloinn | Carwyn Graves | Carys Eleri | Christopher Kissane | Darren Chetty | Delyth Jewell | Edwina Guckian | James Dovey | Laura McAllister | Lowri Cunnington Wynn | Makeba Nicholls | Marianne Kennedy | Max Zanga | Noel Mooney | Philip King | Professor Diarmait Mac Giolla Chríost | Séan McCabe | The Dingle Druid, Julí Ní Mhaoileóin | Tumi Williams

SIARADWYR CLEBRAN AR HYD Y LLWYBR:

Amy O'Brien | Constance Keane (Fears / M(h)aol) | David Peregrine | Archdeacon Eileen Davies | Eoghan Ó Ceannabháin | Gareth Bonello (The Gentle Good) | Gareth Stewart | Georgia Ruth |  Lleuwen | Phil Kieran

Gweler www.othervoices.ie am fanylion pellach ac i archebu tocynnau.