Perfformiadau dawns gan:

• Ballet Cymru 2: manylion yn dod yn fuan

• Rubicon Dance: Mae Selfie of Us yn archwilio sut mae undod yn datgelu ac yn dathlu hunaniaethau unigol o fewn y cydweithfa.

Coreograffi: Deborah Ford a Dawnswyr BTEC ail flwyddyn

Cerddoriaeth: Asturias gan Isaac Albéniz, Catgroove gan ParovStelar (fersiwn Clwb)

• Cerys Lewis - graddiodd yn ddiweddar o Ysgol Bale a Dawns Gyfoes Rambert, gan berfformio darn a gomisiynwyd yn arbennig mewn cydweithrediad â'r sielydd Jude Souter

Hefyd cyfweliad â'r ffotograffydd celfyddydau perfformio Sian Trenberth - y bydd ei harddangosfa o ddelweddau dawns yn eich amgylchynu wrth i chi wylio'r perfformiadau.

Bydd arddangosfa Sian ar agor o Fedi 1af i Dachwedd 21ain o ddydd Llun i ddydd Gwener 9-4