Yfory rhwng 9.30am ac 11am ddydd Mawrth 28 Medi bydd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cyfrannu at drafodaeth "Adeiladu'n ôl yn Decach: y GIG yng nghyd-destun elfennau cymdeithasol allweddol ym maes iechyd".
Bydd yn tynnu sylw at ein rhaglen celfyddydau ac iechyd sy’n cydweithio â Chydffederasiwn GIG Cymru, drwy ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, i hybu cyfraniad y celfyddydau at les.
Meddai Phil George:
"Mae'r celfyddydau ac iechyd yn elfen allweddol o’n gweithgarwch ers rhai blynyddoedd a bydd yn bwysicach byth yn y dyfodol. Mae’r pandemig wedi dangos sut y gall y celfyddydau fod yn gysur ac ysbrydoliaeth ar adegau anodd.
"Mae partneriaeth a chydraddoldeb yn crynhoi ein gwaith yn y maes. Rydym ni’n gweithio gyda Sefydliad Baring, er enghraifft, mewn rhaglen iechyd meddwl newydd. Ac mae ein hymrwymiad i greu mynediad cyfartal i'r celfyddydau yn cael ei wireddu drwy ein partneriaeth â gweithwyr a sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
"Edrychaf ymlaen at y drafodaeth fywiog gyda:
- yr Athro Syr Michael Marmot (Comisiynydd Bevan)
- Dr Tracey Cooper (Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru)
- Paul Morris (Pennaeth Uned Gyswllt yr Heddlu, Llywodraeth Cymru)
- y Cynghorydd Susan Ellsmore (Arweinydd Cyngor Caerdydd)."
Diwedd Llun 27 Medi 2021
Nodiadau i’r golygydd:
Bydd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cyfrannu at y drafodaeth ar "Adeiladu'n ôl yn decach: y GIG yng nghyd-destun elfennau cymdeithasol allweddol ym maes iechyd" yng nghynhadledd Llesiant Cymru y Conffederasiwn rhwng 09.30am ac 1100am, dydd Mawrth 28 Medi.
Dyma ragor o fanylion am y gynhadledd: https://www.nhsconfed.org/WellbeingforWales
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg Cyngor Celfyddydau Cymru – 029 2044 1344