Sut ydym yn wir brofi diwylliant? 

Trwy olwg, sain, arogleuon, neu symudiad? Mae’r artist Sahar Saki’n gwahodd cynulleidfaoedd ledled De a Gorllewin Cymru i archwilio etifeddiaeth Bersiaidd mewn ffordd ymdrochol – lle nad yw barddoniaeth yn cael ei darllen yn unig ond mae’n rhywbeth i gerdded trwyddi, lle mae cerddoriaeth yn cael ei theimlo yn ogystal â’i chlywed, a lle mae celf yn rhywbeth i gamu i mewn iddo.

Mae #PersianTour yn arddangosfa esblygol, aml-synhwyraidd  sy’n trawsnewid orielau yn lleoliadau sy’n ymgorffori diwylliant Iranaidd. Mae pob lleoliad yn dod yn “Iran fychan” lle mae barddoniaeth Bersiaidd, caligraffi, cerddoriaeth, dawns, a hyd yn oed arogl yn creu amgylchedd sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i fynd i’r afael â’r diwylliant y tu hwnt i’r gweledol.

Caiff bob oriel ei thrawsnewid yn waith celf fyw, gyda Saki yn paentio barddoniaeth Bersiaidd yn syth ar y waliau mewn caligraffi ar raddfa fawr. Mae’r arddangosfa’n cynnwys barddoniaeth gyfoes o Iran, perfformiadau dawns byw, cerddoriaeth Bersiaidd, a gweithdai rhyngweithiol, gan ganiatáu i ymwelwyr gymryd rhan mewn caligraffi Bersiaidd a dylunio patrymau traddodiadol. Bydd arogl dŵr-rosyn yn llenwi’r lle, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn profi diwylliant Persiaidd trwy bob un o’u synhwyrau.

Wrth galon  #PersianTour mae cydweithio a chyfnewid diwylliannol. Mae’r prosiect yn amlygu gwaith pum bardd ac artist cyfoes o Iran, ynghyd â pherfformiadau gan ddau ddawnsiwr a chyfraniadau gan dri o fentoriaid artistig. Bydd catalog amlieithog gyda barddoniaeth Bersiaidd wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-fynd â’r arddangosfa, gan bontio diwylliannau ac ieithoedd.

Mae gwaith Saki wedi’i seilio ar ail-ddychmygu gofodau: creu amgylcheddau lle mae celf yn newid y cyfarwydd i rywbeth newydd, lle mae cynulleidfaoedd yn cael eu cludo i lefydd eraill, a lle gall diwylliannau gwahanol gwrdd a chysylltu. Mae ei phrosiectau yn y gorffennol, gan gynnwys Persian Murals (2021) ac Off the Wall (2022), wedi cyfareddu cynulleidfaoedd gyda’u dull arloesol tuag at etifeddiaeth Bersiaidd a chelf gyfoes. Mae #PersianTour yn adeiladu ar y sylfaen hon, gan gynnig cyfarfyddiad dyfnach, mwy ymdrochol, gyda diwylliant Iranaidd i gynulleidfaoedd Cymreig.

Yng ngeiriau’r bardd Persiaidd Hafez:

“در ازل پرتو حسنت ز تجلی دم زد / عشق پیدا شد و آتش به همه عالم زد”

“Ar wawr y creu, llewyrchiad dy harddwch a ddisgleiriodd;

Ganwyd cariad, a rhoddodd yr holl fydysawd ar dân.”

Trwy #PersianTour, mae Saki yn gwahodd cynulleidfaoedd i gamu i mewn i’r disgleirdeb hwn – i brofi, teimlo, a chysylltu â diwylliant Persiaidd mewn ffordd sy’n bersonol ac yn gyfunol fel ei gilydd. Mae’r arddangosfa’n croesawu pobl o bob cefndir a phob oed, gan anelu’n benodol at ymgysylltu â merched o liw a merched o’r Dwyrain Canol yn y celfyddydau.

Mae #PersianTour yn fwy nag arddangosfa: mae’n ddathliad, taith, a  man cwrdd i ddiwylliannau. Gwahoddir cynulleidfaoedd yn gynnes i gamu  i mewn, ymgysylltu â’u synhwyrau, a bod yn rhan o’r profiad trawsnewidiol hwn.

Manylion Digwyddiad:

Dydd Mercher Gorffennaf 16eg–Dydd Mercher Croeso Drws Agored – Cwrdd â’r Artist wrth iddi baentio. 10yb – 12.30yp

Dydd Mercher Gorffennaf 23ain –Gweithdai Cysylltiadau Creadigol i Ofalwyr 10.30yb – 12.30yp
Dydd Mercher Awst 6ed – Dydd Mercher Croeso Drws Agored –dewch i gael golwg 10yb – 12.30yp