Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gyffrous ynghylch cyhoeddi menter arddangos Dyma Gymru 2019 yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Mae’r rhaglen, a elwid gynt ‘Cymru yng Nghaeredin’, yn cynnwys cwmnïau arloesol o Gymru sy’n gweithio ym meysydd theatr, dawns a syrcas. O gwmnïau ifanc i bwerdai sefydledig megis National Theatre Wales a Theatr Clwyd, mae amrywiaeth atyniadol Dyma Gymru yn dangos dyfnder ac ehangder y sioeau sy’n cael eu creu yng Nghymru ar hyn o bryd a sut mae hyn yn adlewyrchu gwlad gyfoes ac amrywiol.

Nod y rhaglen, sy’n cael ei churadu gan banel allanol am y tro cyntaf, yw cyflwyno sîn theatr ffyniannus Cymru i gynulleidfaoedd yr Ŵyl Ymylol, ac ar yr un pryd helpu’r cwmnïau yn y rhaglen i ehangu eu rhwydweithiau creadigol. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae rhaglen ‘Cymru yng Nghaeredin’ wedi cynnwys nifer fawr o gynyrchiadau sydd wedi cael canmoliaeth gan feirniaid rhyngwladol wedi hynny. Roedd y rhain yn cynnwys cynhyrchiad Theatr Sherman Iphigenia in Splott (2015) a Bianco gan No Fit State Circus.

Mae’r un ar ddeg sioe yn y rhaglen yn cynnwys tair drama wedi’u cynhyrchu gan Theatr Clwyd: On the Other Hand, We’re Happy gan Daf James, Daughterhood gan Charley Miles a Dexter and Winter’s Detective Agency gan Nathan Byron. Theatr Clwyd, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig Tamara Harvey, yw cyd-gynhyrchydd Home, I’m Darling gan Laura Wade, a enillodd Wobr Olivier 2019 am y comedi newydd gorau.

Bydd National Theatre Wales hefyd yn cael ei gynrychioli gan ddrama Alan Harris, For All I Care. Mae’r ddrama un fenyw, a grëwyd yn wreiddiol fel rhan o gyfres NTW ‘Love Letter to the NHS’ yn dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed, yn gosod ochr yn ochr fywydau nyrs iechyd meddwl a’r fenyw ifanc mae’n ei chynorthwyo mewn ysbyty lleol. Harris yw awdur Sugar Baby, comedi wedi’i osod yng Nghaerdydd oedd yn boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd yr Ŵyl Ymylol y llynedd.

Mae gweithiau eraill sydd hefyd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig fel rhan o fenter arddangos y British Council yng Nghaeredin yn cynnwys Louder is Not Always Clearer gan Mr & Mrs Clark gyda Jonny Cotsen. Mae’r gwaith theatr gorfforol yn ymchwilio’n deimladwy i’r bregusrwydd mae dyn byddar yn ei brofi.

Y newyddion yn gryno

  • Mae’r rhaglen amlddisgyblaethol fywiog yn cynnwys parti dawns ymdrochol i ddod â phobl ynghyd, celfyddyd fyw am neilltuo amser i siarad a thaith gerddorol ddwyieithog trwy seiniau cenedl. 
  • Mae’r rhaglen wedi’i churadu ac yn rhedeg ochr yn ochr â Hau Hedyn y Dyfodol, menter sy’n canolbwyntio ar artistiaid a grëwyd i gynorthwyo pobl sy’n creu theatr yng Nghymru i fynd i Ŵyl Ymylol Caeredin am y tro cyntaf
  • Er Gŵyl Ymylol gynaliadwy, bydd partneriaeth gyda'r elusen newid hinsawdd o Gymru, Maint Cymru, yn helpu i liniaru ôl troed carbon yr holl gynyrchiadau  

31 Gorff – 25 Awst, Gŵyl Ymylol Caeredin 2019, gwahanol leoliadau

Ceir elfen ymdrochol yn y rhaglen diolch i Volcano Theatre o Abertawe a’i sioe newydd, The Populars, parti dawns pedwar person a grëwyd mewn ymateb i gyflwr presennol y Deyrnas Unedig. Hefyd â thema gerddorol mae Bardd, a grëwyd gan Martin Daws (Bardd Pobl Ifanc Cymru 2013-16) a Mr Phormula (Pencampwr Bit-bocsio Cymru dwywaith). Mae’r gwaith cerddoriaeth fyd-eang dwyieithog yn defnyddio cerddoriaeth fyw a’r gair llafar i roi ciplun polyffonig o hanes cerddorol Cymru, o’r gwreiddiau barddol i ddisgo “freedom funk”.

Ymchwilir i bŵer meithrin cysylltiadau dynol yn Neither Here Nor There gan Jo Fong a Sonia Hughes gyda’u darn o gelfyddyd fyw sy’n ein hatgoffa ni i gyd i arafu a neilltuo amser i gael sgwrs. Ceir yr un thema yn sioe un fenyw Carys Eleri am niwrowyddoniaeth serch ac unigrwydd, Lovecraft (Not the sex shop in Cardiff).

Gan ddarparu golwg ar gydweithrediadau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru gydag artistiaid o genedligrwyddau eraill, mae it will come later wedi’i greu gan iCoDaCo, prosiect Rhyngddiwylliannol dwyflynyddol a gynhyrchwyd yn y DU gan Gwyn Emberton Dance, sy’n cael ei gefnogi gan Raglen Ewrop Greadigol o eiddo’r Undeb Ewropeaidd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Sweden. Mae’r gwaith chwe pherson, sy’n crisialu pwysigrwydd cydweithredu, yn cael ei berfformio ar set sy’n troi ac sydd wedi’i goleuo i efelychu cylch y dydd yn troi’n nos. Mae pob corff yn gwthio yn erbyn y lleill, gan arwain at lif tonnog breichiau a choesau mewn deialog â’r rhai o’i gwmpas.

Yn olaf, bydd y cwmni o fri, Flossy and Boo, yn dod â'u sioe theatr teulu Ned and the Whale i theSpace @ Symposium Hall. Byddant yn adrodd hanes chwilfrydig Ned, bachgen nerfus sy'n ceisio dod o hyd i'w ddewrder a darganfod y gwir hanes tu ôl i Deyrnas Ddirgel yr Ysbïwyr.

Yn ogystal, bydd Dyma Gymru yn cynnwys rhaglen ddatblygu newydd sbon o’r enw Hau Hedyn y Dyfodol i helpu artistiaid newydd a sefydledig i ddatblygu eu rhwydweithiau drwy ymweld â'r Ŵyl. Bydd artistiaid yn cael eu dewis drwy alwad agored a chyhoeddir eu henwau maes o law.  Er mwyn manteisio ar raglen yr Ŵyl a Hau Hedyn y Dyfodol, bydd Cyngor y Celfyddydau’n cydweithio’n agos â’i asiantaeth ddatblygu ryngwladol - Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda British Council Wales, ac am y tro cyntaf, gydag Uchel Gomisiwn Canada. 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n cydweithio gyda'r elusen newid hinsawdd o Gymru, Maint Cymru, i helpu i liniaru ôl troed carbon y rhaglen. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi ymrwymo i weithio gydag artistiaid a phartneriaid sy’n mynd ati i leihau eu heffaith amgylcheddol gymaint ag sy’n bosibl.

Wrth sôn am y cydweithredu, dywedodd cyfarwyddwr Maint Cymru Elspeth Jones “Rydyn ni wrth ein bodd i bartneru gyda menter arddangos Dyma Gymru. Bydd y bartneriaeth yn cefnogi ein gwaith i warchod coedwigoedd trofannol ac adfer tirweddau coedwigoedd trofannol fel rhan o ymateb cenedlaethol Cymru i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r tirweddau gwerthfawr hyn yn rhan hanfodol o’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd ac rydyn ni wrth ein bodd y bydd rhaglen Dyma Gymru yn cefnogi’r gwaith pwysig hwn.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio Cyngor Celfyddydau Cymru, Sian Tomos “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gyflwyno 11 cynhyrchiad yn y cyfle arddangos, Dyma Gymru, yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Mae ystod ac amrywiaeth y gwaith yn tystio i dalent Cymru. Gobeithio bydd y cwmnïau sy’n cymryd rhan yn cael budd o’u hamser yno gan gynyddu eu cynulleidfa a chysylltu ag artistiaid a sefydliadau o bedwar ban byd.”

@_Arts_Wales_ | #thisiswales_edinburgh | https://arts.wales

Noddir Cyngor Celfyddydau Cymru gan Lywodraeth Cymru ac mae’n dyfarnu arian oddi wrth Y Loteri Genedlaethol